Ymchwilio i gŵyn yn erbyn cyngor am gau Ysgol Bodffordd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd ei swyddogion yn cynnal ymchwiliad i'r ffordd y penderfynodd Cyngor Môn i gau Ysgol Gymunedol Bodffordd.
Mae Cymdeithas yr Iaith, llywodraethwyr yr ysgol a nifer o rieni wedi cwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan ddadlau bod y cyngor heb ddilyn y canllawiau cywir, gan fethu ag archwilio posibiliadau eraill nac ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned.
Roedden nhw'n dadlau y dylai'r cyngor fod wedi ystyried canllawiau newydd y llywodraeth sy'n rhagdybio o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.
Dywed y cyngor eu bod yn ymwybodol o'r pryderon a'r gŵyn, a bydd swyddogion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater.
Fe benderfynodd y cyngor ym mis Rhagfyr i gau'r ysgol ym Modffordd ynghyd ag Ysgol Corn Hir, Llangefni a chodi ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 o ddisgyblion yn Llangefni.
Roedd yna wrthwynebiad mawr ym Modffordd, lle mae dros 80 o blant ar y gofrestr.
Cafodd y broses ymgynghorol ynghylch y newidiadau eu cynnal cyn fersiwn diweddaraf y llywodraeth o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion - sy'n rhagdybio o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor - a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod fersiwn flaenorol y cod hefyd yn cynnwys cymalau oedd yn gorfodi awdurdodau lleol:
I ystyried pob opsiwn arall cyn cau ysgol;
I fod yn agored i bosibiliadau newydd sy'n codi yn ystod y broses ymgynghorol;
I ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned leol ac ar yr iaith Gymraeg.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mi fethodd y cyngor â dilyn y canllawiau hynny wrth benderfynu tynged Ysgol Bodffordd.
Tanseilio'r strategaeth
Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Os gellir cau ysgol boblogaidd a llawn fel Bodffordd lle mae 89% o'r plant o aelwydydd Cymraeg, go brin fod unrhyw ysgol wledig yn ddiogel a bydd strategaeth Kirsty Williams o blaid ysgolion gwledig yn ddi-ystyr.
"Mae Cyngor Ynys Môn wedi methu yn ei ddyletswyddau o dan y Cod mewn ymdrech i ddenu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn Llangefni.
"Mae mawr angen yr adeiladau newydd yn Llangefni, ond nid yw'n deg, nac yn gyfreithlon, fod cymunedau gwledig o gwmpas y dref i fod i ddioddef o ganlyniad."
Yn ôl Cymdeithas, roedd yn rhaid mynd trwy broses gwyno fewnol y cyngor cyn gallu mynd â'r mater i'r Gweinidog Addysg, a bod y cyngor wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le ac awgrymu cwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywed yr ymgyrchwyr y "gallai ymchwiliad ganddo fo gymryd naw mis, a byddai fait accompli gan y Cyngor erbyn hynny", a bod Ms Williams "wedi cydsynio, a gofyn i'w swyddogion edrych i mewn i'r cŵyn".
Yn ei llythyr atyn nhw mae hi'n ysgrifennu: "Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried y materion yr ydych yn tynnu sylw atynt, ac a ydynt yn cynrychioli methiant i gydymffurfio â'r Cod.
Fel rhan o'r ystyriaethau hynny, bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i roi gwybod bod cwyn wedi dod i law ac i ofyn am unrhyw wybodaeth bellach yr ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn ymwybodol o'r pryderon yma a'r gŵyn sydd wedi ei chyflwyno.
"Mae'n swyddogion ni yn ystyried y gŵyn ar hyn o bryd. Byddent yn cysylltu gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru parthed y mater yma hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018