Galw am newid y gyfraith i atal ymosodiadau ar ddefaid
- Cyhoeddwyd
Dydy'r deddfau presennol i atal ymosodiadau ar dda byw ddim yn gweithio ac mae angen eu newid, yn ôl perchnogion fferm ar Ynys Môn sy'n dal mewn sioc wedi ymosodiad diweddar ar eu tir.
Mae Robert Jones a'i gymar Marie Wilson wedi disgrifio'r olygfa ar eu fferm yn Rhos-y-bol, ger Amlwch, fel un tebyg i ffilm arswyd wedi i gi ladd pedwar oen a phedair mamog.
Dywed rheolwr dau o dimau troseddau cefn gwlad Cymru, Rob Taylor, bod yr heddlu angen mwy o rymoedd i fynd i'r afael â'r sefyllfa, ac mae undebau amaeth hefyd yn galw am gamau pellach.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod angen camau sy'n cynnwys cosbau llymach a gorfodi heddluoedd i gofnodi pob achos o amharu ar dda byw.
'Torcalonnus'
Dywedodd Ms Wilson ei bod yn bwydo ŵyn newydd-anedig â llaw pan dynnodd cymydog ei sylw at "lanast llwyr" ar eu tir.
"Dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg o'r blaen," meddai. "Fyddwn i'm yn dymuno gweld dim byd tebyg eto - trawmatig iawn - torcalonnus."
Yr amheuaeth yw bod dau gi wedi rhedeg ar ôl mamogiaid ac ŵyn yn y cae gyferbyn â'r ffermdy. Cafodd rhai o'r defaid eu rhwygo'n ddarnau.
Bu farw rhai yn y fan a'r lle, a bu'n rhaid difa pob un arall a gafodd anafiadau yn y digwyddiad.
Dywedodd milfeddyg wrth y cwpwl mai dyma oedd yr ymosodiad gwaethaf gan gi ar dda byw iddo ddod ar ei draws erioed.
Cafodd tair mamog a chwe oen eu lladd ar fferm gyfagos yn yr un achos, a ddigwyddodd ar yr un pryd â gêm Cymru yn erbyn Iwerddon i gipio'r Gamp Lawn ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bedair wythnos yn ddiweddarach mae'r cwpwl yn dal dan straen, ac mae Ms Wilson wedi gorfod cael tabledi cwsg gan y meddyg teulu.
Dyw "gorwedd yn y gwely gyda'r nos gyda'r delweddau" ar eu meddyliau, poeni a allai'r un peth ddigwydd eto a chodi bob bore i barhau â gwaith y fferm "ddim yn hawdd", medd Ms Wilson.
Dyw'r awdurdodau ddim wedi gallu adnabod y cŵn na'r perchnogion er mwyn ystyried eu herlyn.
Torri record eleni?
Mae 40 o ymosodiadau tebyg wedi digwydd yng ngogledd Cymru yn unig hyd yma eleni - 48 yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Dywed Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gwent eu bod yn delio â thua 15 o achosion o amharu ar ddefaid bob mis.
Mae'r mater yn parhau'n un "sylweddol" i ffermwyr, medd Heddlu De Cymru, sydd wedi cynyddu nifer y swyddogion sy'n cael eu hyfforddi i ymateb i droseddau bywyd gwyllt.
Yn ôl Rob Taylor - rheolwr timau troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd a Heddlu Dyfed-Powys - mae nifer yr ymosodiadau hyd yma eleni yn awgrym bod hi'n edrych yn debygol y bydd y record yn cael ei thorri cyn diwedd y flwyddyn.
Mae'n dweud bod yna wendidau yn y ddeddfwriaeth bresennol - gan gynnwys yr un mwyaf perthnasol sydd mewn grym ers 1953 - sydd ddim yn cymryd i ystyriaeth datblygiadau o ran profion DNA.
Hefyd, medd Mr Taylor, does gan yr heddlu ddim hawl i gymryd sampl o gi sydd dan amheuaeth o amharu ar dda byw.
Ychwanegodd nad oedd gan yr heddlu chwaith yr hawl i fynd â chi lle mae yna dystiolaeth bendant ei fod wedi ymosod ar dda byw, a does dim diffiniadau clir ynghylch pa anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod gan y ddeddf.
Dydi hi ddim yn eglur a fyddai'r gyfraith yn gwarchod lamaod ac alpacaod, er enghraifft, sy'n cael eu cadw mewn niferoedd cynyddol ar ffermydd.
"Rydan ni wedi cynhyrchu ffilmiau a phosteri, rydan ni wedi ceisio addysgu'r cyhoedd, ond dydy pobl ddim yn gwrando," meddai Mr Taylor.
"Rydan ni wedi cyrraedd pwynt lle mae angen newid y gyfraith, mae angen cosbau llymach, mae angen gorchmynion yn gwahardd pobl mewn cysylltiad â'r troseddau yma."
'Rhwystredigaeth a dicter'
Mae undebau amaeth yn cefnogi'r alwad i newid y gyfraith.
Dywed Undeb Amaethwyr Cymru bod angen cosbau llymach i berchnogion na'r ddirwy bresennol o hyd at £1,000.
Maen nhw hefyd eisiau gorfodi heddluoedd Cymru i gofnodi ymosodiadau ar dda byw, yn lle'r drefn wirfoddol bresennol.
"Mae yna rwystredigaeth a dicter cynyddol ymhlith ein haelodau ynghylch cyn lleied y gellir ei wneud i warchod da byw rhag ymosodiadau gan gŵn," meddai uwch swyddog polisi'r undeb, Dr Hazel Wright.
"Pan mae yna ymosodiadau gan gŵn, dylai ffermwyr allu dibynnu ar y system gyfreithiol i warchod eu bywoliaeth a'u busnesau trwy weithredu mewn ffordd sy'n wirioneddol rhwystro troseddu."
Gan nad yw'r maes yn un sydd wedi ei ddatganoli byddai gofyn i Senedd San Steffan weithredu unrhyw newid i'r gyfraith.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran sy'n gyfrifol am faterion cefn gwlad, DEFRA bod yr heddlu eisoes â'r hawl dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 i fynd i'r afael ag ymosodiadau ar dda byw.
Mae'r ddeddf honno, meddai, yn golygu bod modd erlyn perchnogion cŵn sy'n cwrso, ymosod neu'n lladd anifeiliaid, ac i atafaelu'r cŵn os nad ydyn nhw dan reolaeth.