Ffrae am enw newydd atyniad twristiaeth poblogaidd
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae yn corddi am enw un o atyniadau mwya poblogaidd Gwynedd wrth i'r enw Slate Mountain gael ei nodi fel enw ambarél ar atyniadau fel chwareli Llechwedd a Maenofferen
Bydd noson agored yn gyfle i drigolion lleol drafod y penderfyniad dadleuol i ail-frandio'r busnes ag enw Saesneg.
Mae'r enw "ambarél", medd rheolwyr wrth Taro'r Post, yn ymateb i gynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ac yn cwmpasu nifer o atyniadau gwahanol.
Dywed y cwmni bod bwriad hefyd i ddefnyddio'r enw Mynydd Llechi ar arwyddion a deunydd marchnata, a bydd eu gwefan yn ddwyieithog hefyd maes o law.
Mae'r cam wedi siomi nifer o drigolion yr ardal sy'n poeni bod yr enw newydd yn"amharchu" Cymreictod, hanes a diwylliant yr ardal.
Dywedodd y cerddor Gai Toms bod awydd y cwmni i ddenu mwy o ymwelwyr a hybu economi'r ardal yn "ddealladwy" ond bod angen i hynny ddigwydd "law yn llaw â'r diwylliant".
Mae enwau chwareli Llechwedd a Maenofferen "yn rhan o'n hunaniaeth" meddai, ac yn ychwanegu at naws unigryw'r atyniad.
"Tynnwch chi'r elfen marchnata o hyn i gyd - enw llefydd ydi hein felly mae'r cwmni yn yr achos yma [yn] coloneiddio'n hunaniaeth ni," dywedodd.
"Wrth gwrs ma' pawb yn deall Saesneg, ond ma' 'na ymwelwyr yn dod i Gymru isio blas o'r Gymraeg. Heb yr iaith weladwy yn y gymuned, waeth i ni newid enw'r dre' yn Front of Ffestiniog.
"Be' ma' nhw isio - profiad Cymreig ta profiad Disneyfication?"
Dywedodd rheolwr marchnata Slate Mountain, Bleddyn Williams, bod y cwmni angen enw newydd ar gyfer safle lle mae "pedwar, pump peth yn mynd ymlaen".
"Mae'r busnes angen ambarél o enw ar y giât cynta'," meddai, gan ychwanegu mai'r enw Cymraeg, Mynydd Llechi fydd yn ymddangos yn gyntaf, uwchben Slate Mountain, ar yr arwydd newydd ar gyfer y prif fynedfa.
Ychwanegodd bod enwau'r chwareli unigol - Llechwedd a Maenofferen - yn dal yn amlwg ar y safle ac mewn deunydd marchnata.
Dywedodd bod nifer yr ymwelwyr wedi codi o hyd at 50,000 y flwyddyn yn 2012 i ychydig dan 250,000 y llynedd, ac mai llond llaw yn unig o'r 70 o staff sydd ddim yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Bydd yr arwyddion newydd yn eu lle "erbyn dechrau Mai" - tua'r un pryd â noson agored y mae'r cwmni'n ei threfnu i drafod eu cynlluniau.
"'Dan ni isio cynnwys [pobol leol] yn y busnes gymaint â phosib," meddai Mr Williams. "Yndan, 'dan ni'n dallt ella 'sa ni 'di gallu neud petha' mewn ffor' whanol, a 'dan ni'n dallt bod pobol leol â'u pryderon."
Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod wedi derbyn cwynion am y newid gan etholwyr.
Ysgrifennodd ar Twitter: "Yn sgil pryderon am eu gwefan uniaith Saesneg byddaf yn gofyn am gyfarfod gyda @Slate_Mountain er mwyn cyfleu pwysigrwydd parchu'r Gymraeg a'i rhan annatod yn hyrwyddo a datblygu treftadaeth a hanes werthfawr ardal Ffestiniog."
'Amharch ofnadwy'
Dywedodd Angharad Fychan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru mai penderfyniad Slate Mountain yw'r enghraifft "dorcalonnus" ddiweddaraf o Seisnigo enw Cymraeg traddodiadol.
"Mae'r cwmnïau yma yn cuddio tu nôl i ryw esgus mai enw'r busnes ydi hyn, ac nag ydyn nhw mewn gwirionedd yn newid yr enw lle, ac mae hynny'n broblem," meddai.
"Mae o'n dangos amharch ofnadwy i'r iaith a'n cefndir a'n hanes ni.
"Mae rhywfaint o'r bai yn fan hyn ar gwmnïau marchnata achos dwi wedi cl'wad achosion lle maen nhw wedi bod yn annog perchnogion busnes, hyd yn oed Cymry Cymraeg, i roi enwau Saesneg ar eu busnesa'.
"Dwi'n meddwl bod hi'n druenus arnon ni fel cenedl bod ni ddim yn gallu ymfalchïo yn ein enwau cynhenid... a bod ni ddim yn defnyddio hynny fel arf ychwanegol er mwyn marchnata fel rhywbeth unigryw."
Mae Slate Mountain wedi cadarnhau i Cymru Fyw mai cwmni o Landrillo-yn-Rhos fu'n eu cynghori ynghylch ail-frandio, a bod trefnu gwefan ddwyieithog "yn cymryd amser i'w wneud yn iawn".
.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2017