Colli pleidlais Cynulliad ar ddiogelu enwau lleoedd

  • Cyhoeddwyd
Dai Lloyd

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn ymgais Dr Dai Lloyd i gyflwyno mesur ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol.

Roedd yr AC Plaid Cymru wedi gobeithio cyflwyno deddf er mwyn "sicrhau na chaiff elfen allweddol o'n treftadaeth genedlaethol ei cholli".

Ond fe bleidleisiodd ACau o 28 i 25 yn erbyn y cynnig, wedi i Lafur gwestiynu'r angen am y mesur.

Roedd y Ceidwadwyr ac UKIP wedi datgan y bydden nhw'n cefnogi'r cynnig, gafodd ei ddewis ym mis Ionawr, wrth i ACau gymryd rhan mewn pleidlais ar hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad.

Rhestr statudol

Byddai'r mesur wedi gwarchod enwau lleoedd gan gynnwys tai, ffermydd, caeau, ac elfennau o'r dirwedd naturiol, a dywedodd Dr Lloyd fod y syniad wedi denu cefnogaeth nifer o sefydliadau.

Cyfeiriodd Dr Lloyd at nifer o esiamplau oedd eisoes wedi denu sylw, gan gynnwys cais i newid enw Plas Glynllifon yng Ngwynedd i Wynnborn, newid Maes-llwch ym Mhowys i Foyles, Cwm Cneifion yn Eryri i Nameless Cwm, a fferm Faerdre Fach ger Llandysul i Happy Donkey Hill.

Ond dywedodd yr ysgrifennydd diwylliant, Ken Skates fod ganddo amheuon am y cynnig ac y byddai gan Gymru "restr statudol o enwau lleoedd hanesyddol" erbyn mis Mai beth bynnag.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd bwriad i newid enw Plas Glynllifon, ond mae tro pedol wedi bod yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd

"O ystyried nifer yr enwau lleoedd hanesyddol a'r amddiffyniad eang mae'r aelod am ei gyflwyno, dwi ddim yn gweld sut y gall system o gydsynio cyffredinol neu reolaeth dros newidiadau fod yn ymarferol nac yn fforddiadwy," meddai.

Ond fe wnaeth hynny ennyn ymateb chwyrn gan Dr Lloyd, a ddywedodd mai Plaid Cymru oedd wedi sicrhau y byddai'r llywodraeth yn llunio rhestr statudol yn y lle cyntaf.

"Mae'r ffaith na fydd gwarchodaeth statudol i'n henwau lleoedd hanesyddol o unrhyw iaith - Saesneg, Eingl-sacsonaidd, Llychlynnaidd, Lladin, Hen Gymraeg, Cymraeg Newydd, Norwyaidd, Ffleminaidd - yn golygu bod smorgasbord cyfoethog o'n hanes yn cael ei golli," meddai.