Ffilm newydd am 'addysgu pobl am gyflwr awtistiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae hogyn ifanc sydd yn byw gyda chyflwr awtistiaeth wedi cael ei ddewis i serennu mewn ffilm western newydd.
Daeth Charlie Lock, o Fynwent y Crynwyr yn y cymoedd, i wybod fod ganddo'r cyflwr pan yn bedair oed, nawr yn 11 mae Charlie yn cael cyfle i wireddu breuddwyd.
Mae'r ffilm, 'Showdown', yn adrodd hanes hogyn ifanc awtistig sydd â diddordeb mawr mewn ffilmiau western ond sydd â pherthynas anodd gyda'i dad.
Dywedodd cyfarwyddwyr y ffilm, Kristian Kane a Lewis Carter, bod cael actor sydd yn byw gyda'r cyflwr i chwarae'r rhan yn hanfodol.
Yn ôl Charlie, nid oes yno ffordd well i ddysgu pobl am awtistiaeth na drwy actio.
Mae awtistiaeth yn anhwylder sbectrwm, a olygai ei fod yn effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd.
Dywedodd Charlie ei fod wedi methu a pherfformio mewn perfformiadau yn yr ysgol gan fod "nifer y bobl a'r goleuadau yn ormod" iddo.
Ond ar ôl i'w fam ymateb i hysbyseb yn gofyn am actorion ifanc gyda gwallt cyrliog, fe ddisgynnodd Charlie mewn cariad â'r grefft.
"Dwi'n gwybod yn union be sy'n digwydd, dyna yw'r peth gorau," meddai.
"Rydw i eisiau pobl i ddeall mwy am blant sydd ag awtistiaeth ac i beidio meddwl y gwaethaf bob tro."
"'Dwi'n deall yn union sut beth yw byw gydag awtistiaeth, a gan nad yw pawb yn deall sut beth ydi hynny, mae'n rhaid i mi ddangos iddyn nhw."
Ychwanegodd: "Rydw i eisiau dangos i blant awtistig bod modd iddyn nhw lwyddo fel fi a 'dwi eisiau gweld nhw'n dilyn cyflawni pethau arbennig."
Bydd 'Showdown' yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Abertawe ar 24 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2017