Rhybudd i gefnogwyr cyn gêm derfynol Tlws Cymdeithas Pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y gêmFfynhonnell y llun, Michael James
Disgrifiad o’r llun,

Roedd STM Sports yn wynebu Cefn Albion yn y rownd gynderfynol

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi rhybuddio y bydd unrhyw gefnogwyr sy'n cam-drin chwaraewyr yn ystod rownd derfynol Tlws Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn gorfod gadael.

Dywed llefarydd ar ran y clwb, sy'n cynnal y gêm rhwng Pontardawe a Chefn Albion, eu bod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Heddlu Dyfed Powys a Chymdeithas Pêl-Droed Cymru (CBDC)i sicrhau bod digon o blismyn ar ddyletswydd.

Mae'r heddlu a'r Gymdeithas wedi cadarnhau eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad wedi honiadau bod dau o chwaraewyr clwb pêl-droed STM Sports o Lanrhymni, Caerdydd wedi'u cam-drin yn hiliol gan gefnogwyr Cefn Albion o Wrecsam yn y rownd gyn-derfynol fis diwethaf yn Y Drenewydd.

Mae Cefn Albion yn dweud nad ydynt yn ymwybodol o unrhyw honiadau ac nad ydynt wedi cael cysylltiad uniongyrchol â'r heddlu, STM Sports na'r Gymdeithas Bêl-droed.

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud y bydd y gêm yn cael ei chynnal er bod yna alw am ei gohirio tra bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal.

Yn ystod y gêm yn Y Drenewydd, mae Hermon Yohanes a Lamin Conteh yn honni eu bod wedi eu cam-drin dro ar ôl tro gan gefnogwyr.

Dywedodd Cefn Albion nad oedden nhw'n ymwybodol o'r honiadau nes iddyn nhw gael eu darlledu yr wythnos hon.

Mewn datganiad dywedodd Hermon Yohanes bod pobl wedi ei alw'n enwau sarhaus iawn. Dywedodd: "Dwi erioed wedi cael fy nhrin fel hyn o'r blaen.

"Roedd yn ddiwrnod trist iawn ac mae wedi effeithio llawer arna i. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth."

'Am gynnig amgylchedd croesawgar'

Dywedodd Lamin Conteh ei fod wedi chwarae i'r tîm am flynyddoedd ac nad oedd erioed wedi clywed y fath hiliaeth - gan gynnwys sylw am liw croen y ddau ac ymddygiad gwael.

Roedd STM Sports, yr elusen Show Racism the Red Card ac AS Canol Caerdydd Jo Stevens wedi annog y Gymdeithas Bêl-droed i ailfeddwl cynnal y gêm y penwythnos hwn.

Yn ystod y gêm roedd yna hefyd honiadau o wahaniaethau ar sail rhyw gydag un ddynes yn dweud i rywun ymosod arni mewn caffi yn Y Drenewydd.

Wrth ymateb i'r honiadau dywedodd cadeirydd clwb Cefn Albion, Haydn Evans: "Rydym yn falch o fod yn llysgenhadon i'n cymuned ac ry'n am gynnig amgylchedd croesawgar i chwaraewyr a chefnogwyr o bob cefndir.

"Os fyddwn yn derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau y cam-drin hiliol yna byddwn yn gweithio gyda'r heddlu a CBDC i weithredu'n briodol."

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yng Nghoedlan y Parc yn Aberystwyth am 13.30.