Caffi i gefnogi'r rhai sy'n galaru
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n dweud bod problem yn haws ei datrys gyda sgwrs dros baned.
Mae'r theori yma ar waith yn Nefyn gyda sefydliad Caffi Colled, y cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru, sy'n cynnig cyfle i bobl ddod at ei gilydd yn eu galar.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth olaf bob mis, gan ddechrau ar 30 Ebrill.
Ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru ar 23 Mawrth roedd adroddiad arbennig yn trafod y cynlluniau ar gyfer y fenter.
Sara Roberts o'r Eglwys yng Nghymru yw sylfaenydd y caffi: "Pethau dwi'n clywed mwy a mwy yn fy swydd i wrth gymryd angladdau a mynd i weld pobl adra, oedd y teimlad yma bod 'na rhyw dristwch, profedigaeth, colled a galar mawr yn mynd ymlaen tu ôl i ddrysau bobl, a neb yn trafod o'n gyhoeddus.
"Be am i mi drio cael lle i bawb ddod at ei gilydd a chael paned a chacen - mae hynny'n gwneud bob dim yn haws, i bobl gael trafod efo'i gilydd mewn lle diogel, cyfrinachol. Mae pawb yn gallu rhannu os maen nhw isio, eu profiadau nhw a'u teimladau nhw.
'Da ni yna i chi'
"Hefyd eu hofnau nhw, pethau sydd wedi helpu, pethau maen nhw'n ei weld yn anodd. Dydi o ddim bwys pa mor hen 'da chi, pa mor hir yn ôl gafoch chi'r brofedigaeth - wythnos ddiwetha' neu ugain mlynedd yn ôl - os da chi'n teimlo bod chi eisiau mynd yna i rannu a chael paned, da ni yna i chi.
"Mae 'na groeso i bawb ddod sy'n teimlo bod nhw angen 'chydig bach o gwmni, eisiau rhannu, gwneud ffrindiau, a dod o hyd i'r nerth yna sydd ynddo chi, ond falle 'da chi ddim yn ei deimlo fo o hyd."
Un teulu allai elwa o'r cyfarfodydd ydi perchnogion Maes Carafanau'r Wern a Chaffi Ni ger Nefyn. Fe gollodd Nia Humphreys ei thad y llynedd, ac mae hi'n cydnabod pwysigrwydd creu sefydliad o'r fath a'r cymorth mae'n ei gynnig:
"Mae gennym ni fusnes fan hyn, lle'r oedd Dad yn ei redeg o ers hanner can mlynedd, ac yn fwya sydyn mae'r dyn ei hun wedi mynd... wedyn yr holl filiau a'r holl waith papur, sa'n braf i rywun cael cymorth i wybod beth i wneud yn iawn."
"Roedden ni'n lwcus, mae Dylan a fi, a hefyd mae gennai frawd yn Llandudno, ac oeddan ni i gyd yn gallu tynnu at ein gilydd i helpu Mam" meddai Nia. "Ond mae yna rai pobl sydd heb y gefnogaeth yna ac yn ffeindio hi yn ofnadwy o anodd."
'Hwb i symud ymlaen'
Bydd Nia yn annog ei mam i fynd i'r caffi er mwyn cael ychydig o gefnogaeth: "Mae cael pobl eraill sy'n mynd drwy'r un peth â chi o'ch cwmpas chi yn mynd i roi hwb mawr i symud ymlaen ella.
Yn ogystal â'r materion ysbrydol ac emosiynol, mae angen cymorth ymarferol hefyd. "Does gan Mam ddim cyfrifiadur hyd yn oed - da ni wedi rhoi iPad un o'r plant iddi rŵan iddi drio, ac mae hi'n gwneud yn dda, yn ateb e-byst ac mae hynny di helpu hi dwi'n meddwl."
Mae Linda Hughes yn swyddog cefnogi cleifion a theuluoedd yn gweithio i Hosbis Dewi Sant ac yn cymeradwyo'r fenter newydd: "Dwi'n meddwl bod o'n syniad gwych, yn enwedig mewn ardal wledig fel hon.
"Un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n wych ydy y bydd o'n gyfle i bobl sydd wedi diodde' colled allu dod allan eto a chyfarfod pobl heb fod ofn wynebu pobl, dwi'n meddwl, achos dyna un o'r pethau sy'n anodd, ydy nad 'di rhywun ddim cweit yn siŵr pa bryd mae o am gael ei ddal off guard os liciwch chi. Dim Tesco neu Morrisons di'r lle falle i chi feddwl "oh hec, dwi ddim yn mynd i allu dal pethau efo'i gilydd".
"Fyswn i'n teimlo bod hwn yn mynd i fod yn hafan i bobl - mae'r 'normal' newydd yn anodd. Dwi'n meddwl bod caffi fel hyn yn mynd i fod yn rhoi caniatâd i bobl i symud ymlaen, ac i wneud o gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg.
"Ella gwneud ffrindiau newydd, achos dyna be sy'n hynod drist weithiau, mae pobl yn symud ymlaen achos dy'n nhw ddim yn gwybod sut mae delio efo'r sefyllfa o golled ac mae pobl yn colli ffrindiau. Byswn i'n licio meddwl bod nhw'n mynd i wneud ffrindiau newydd ellir fod yn gefn iddyn nhw ar eu siwrne ymlaen."
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal 10:00-12:00 yn Nhŷ Doctor, Nefyn ar ddydd Mawrth olaf bob mis, gan ddechrau 30 Ebrill.
Hefyd o ddiddordeb: