Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Sutton United

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd gôl hwyr i'r tîm cartref yn golygu bod gobeithion Wrecsam o orffen yn y tri uchaf yn parhau am y tro.

Fe ddaeth y gôl hollbwysig gyda 12 munud yn weddill, wrth i Kieran Kennedy ergydio o ganol y cwrt cosbi.

O flaen torf o dros 5,000 yn y Cae Ras roedd angen i'r Dreigiau drechu Sutton er mwyn cynnal y pwysau ar Salford City a Solihull Moors sydd yn ail ac yn drydedd yn y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd.

Mae Wrecsam bellach wedi curo tair gêm o'r bron, ond yn parhau yn y bedwerydd safle.