Gwagio tai wedi tân mynydd sylweddol ym Mlaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Mae tua 20 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod yr oriau mân wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â thân mynydd sylweddol.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mae pum criw o ymladdwyr yn dal yn ymateb i'r sefyllfa brynhawn Mawrth ac mae rhan o'r A470 yn dal ar gau yng nghanol y dref.
Yn ôl un llygad dyst roedd y llethrau uwchben y dref yn "edrych fel llosgfynydd".
Does neb wedi cael eu hanafu.
Mae'r A470, Stryd yr Eglwys ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A496, Ffordd Benar a Stryd Cromwell oherwydd y tân.
Mae'r oddeutu 50 o bobl fu'n rhaid gadael eu cartrefi wedi cael lloches mewn caffi ar y Stryd Fawr.
'Modrwy o dân'
Yn ôl y cynghorydd tref, Rory Francis, roedd mwyafrif y preswylwyr hynny wedi cael dychwelyd i'w cartrefi wedi ychydig oriau.
"Oedd pobl wrth fynd i'r gwely yn gw'bod bod rwbath yn digwydd ond roedd rhaid iddyn nhw ga'l 'u deffro wedyn am 03:30 y bore," meddai.
"Ma' 'na ryw fodrwy o dân yn ymestyn yr holl ffordd o ganol y dre' ger y Co-op i Llechwedd. Mae'n ofnadwy.
"Mae Garreg Ddu yn sefyll dros ganol y dre'. Mae'n lle arbennig i fynd i gerdded, i weld yr olygfa dros y dre'.
"Ma'r gwair, ma'r grug i gyd yn llosgi. Ma' rhywun yn meddwl am yr adar, yr anifeiliaid sydd yno, a'r peryg i bobl a thai, wrth gwrs."
Yn ôl y cyngorydd sir Annwen Daniels mae tanau mynydd "yn digwydd yn rheolaidd" yn yr ardal ond mai dyma'r un mwyaf mewn degawdau.
"'Dwi 'rioed 'di gweld un mor fawr â hon," meddai. "Ma' bob man ar stop [ond] 'sa nunlle gwell na Blaena' i fyw mewn argyfwng. Ma'r gymuned bob tro yn dod at ei gilydd."
Ychwanegodd ei bod yn disgwyl y bydd Cyngor Gwynedd "yn gweithio'n agos efo'r frigâd dân i weld os oes posib neud petha' i stopio rwbath fel hyn ddigwydd eto, a dod mor agos i gefna' tai fel mae 'di 'neud neithiwr."
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw ychydig cyn 20:30 nos Lun, ac fe gafodd criwiau o Flaenau Ffestiniog, Porthmadog, Dolgellau, Nefyn, Harlech a Johnstown eu hanfon yno.
Roedd disgwyl i'r ymdrechion i ddiffodd y fflamau barhau am rai oriau, ac roedd pump o griwiau yn dal ar ddyletswydd erbyn dechrau prynhawn Mawrth.
Y gred yw bod y tân wedi cychwyn yn yr ardal y tu ôl i'r chwarel.