Arloesi i roi llais yn ôl i gleifion canser y gwddf
- Cyhoeddwyd
Mae colli'r gallu i siarad oherwydd canser y gwddf neu gyflyrau niwrolegol yn brofiad brawychus, a hynny ar ben effeithiau eraill y salwch.
Tan nawr doedd offer siarad tebyg i'r hyn oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gwyddonydd Stephen Hawking ddim ar gael yn y Gymraeg.
Ond mae Prifysgol Bangor yn arloesi gydag offer sy'n creu llais synthetig i gleifion trwy ddefnyddio eu lleisiau naturiol cyn iddyn nhw eu colli.
Cafodd Uned Technolegau Iaith y brifysgol yng Nghanolfan Bedwyr grant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosiect o'r enw Lleisiwr.
Aeth y brifysgol ati wedyn i gydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gynllun peilot a'r gobaith ydy ehangu hwnnw i weddill byrddau iechyd Cymru maes o law.
Bu staff yr uned iaith yn cydweithio gyda therapyddion lleferydd o fewn y gwasanaeth iechyd i recordio'r cleifion a chreu cronfa o eiriau sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i ail-greu'r llais.
Dywedodd Stefano Ghazzali, arbenigwr technoleg a systemau'r uned: "Mae Lleisiwr yn gweithio i gyd trwy'r wefan - lleisiwr.techiaith.cymru - a 'da chi'n gorfod darllen brawddegau fesul tri.
"Mae 'na 827 brawddeg i'w recordio yn y Gymraeg a 1,132 yn Saesneg.
"Mae'r claf angen rhyw dair i bedair awr i greu y llais.
"Mae'n gweithio ar ffonau symudol felly os 'da chi'n defnyddio predictive text Cymraeg hefo'n gwefan ni, ti'n medru cael o fyny ar dy ffôn, teipio brawddeg mewn ac mae o'n siarad."
'Colli eu hiaith'
Yn ôl Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, mae'n hen bryd bod technoleg fel hyn ar gael i siaradwyr Cymraeg.
"Mae'r dechnoleg yma'n bodoli yn y Saesneg ers blynyddoedd ac o'n i eisiau bod e ar gael yn y Gymraeg hefyd," meddai.
"Fel arall, fydd pobl ddim yn gallu siarad Cymraeg - ac mae mor annheg bod pobl sydd yn sâl ac yn wynebu anawsterau beth bynnag, yn wynebu'r anhawster ychwanegol o golli eu llais a cholli eu hiaith.
"Fe aethon ni i bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - peilot mewn gwirionedd i weld be' fyddai'n bosib - ond y gobaith yw yn y dyfodol y bydd e yn cael ei ymestyn i weddill Cymru."
Un o'r rhai cyntaf fydd yn elwa o'r dechnoleg newydd ydy John Wynne Jones, cyn-faer Biwmares, sydd bellach yn byw ger Abertawe.
Er nad yw'n gweld ei hun yn defnyddio'r offer pob dydd, mae'n sicr yn gweld y manteision, yn enwedig ar achlysuron ble byddai angen cyflwyno neu siarad yn gyhoeddus.
"Y broblem fwya' efo'r system ydy bod yn rhaid i chi deipio allan be' 'da chi eisiau dweud a ma' hynny'n cymryd dipyn o amser," meddai.
"Ond mae'n help mawr, mae'n rhoi'r cyfle a'r dewis i allu cyfathrebu yn fy hen lais - er enghraifft, dweud 'mod i eisiau newid neges y ffôn, fedra' i wneud efo'r system yma rŵan.
"Efo Stephen Hawking, ma' rywun yn gyfarwydd â system debyg. Fyddai hi ddim yn iawn, wrth gwrs, i Gymry Cymraeg beidio cael yr un cynnig. A dyna ydy'r wyrth maen nhw wedi ei gyflawni ym Mangor."
Bydd hanes John hefyd yn cael sylw yn y rhaglen 'DRYCH: Achub Llais John' ar S4C nos Sul 28 Ebrill, am 21:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017