Cerddor ifanc o Sir Gar sy'n cyfansoddi â'i lygaid

  • Cyhoeddwyd
Jac Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae technoleg arbennig yn galluogi Jac Richards i gyfansoddi yn defnyddio ei lygaid

Bydd darn o gerddoriaeth gafodd ei gyfansoddi gan ddyn ifanc â pharlys yr ymennydd yn cael ei chwarae mewn gŵyl gerddoriaeth dros y penwythnos.

Mae Jac Richards, 22 oed o Langennech, Sir Gaerfyrddin, yn defnyddio ei lygaid er mwyn chwarae a chyfansoddi cerddoriaeth ar ei gyfrifiadur, yn ogystal â golygu lluniau a fideos.

Bydd y gân yn cael ei chwarae yng ngŵyl RawFfest yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Dywedodd Mr Richards ei fod yn "falch ond yn nerfus" am weld ei ddarn 'Only Love' yn cael ei chwarae yn gyhoeddus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Richards wedi bod yn astudio cerddoriaeth a ffilm ers tair blynedd

"Mae ysgrifennu a chwarae cerddoriaeth yn fy nghyffroi ac yn fy ngwneud i'n hapus. Rydw i'n gallu defnyddio fy ymennydd yn iawn o'r diwedd," meddai'r cerddor ifanc.

"Rydw i'n trefnu a chwarae nifer o offerynnau gwahanol gan ddefnyddio fy llygaid yn unig."

Mae Mr Richards wedi bod yn astudio cerddoriaeth a ffilm am dair blynedd ac wedi ennill 10 cymhwyster gyda Forget Me Not Productions.

Yn ôl ei fam, Joanne Richards, gan nad yw Jac yn medru siarad, mae ganddo'r creadigrwydd yma i gyd yn sownd tu mewn iddo.

"Mae'r dechnoleg arbennig yma yn ei alluogi i arddangos ei gariad tuag at gerddoriaeth drwy fod yn greadigol."