Storm Hannah: Cannoedd o dai heb gyflenwad trydan

  • Cyhoeddwyd
Coeden
Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi disgyn ar adeilad ym Mhenrhyncoch ger Aberystwyth

Mae cannoedd o gartrefi wedi bod heb gyflenwad trydan ar ôl i wyntoedd cryfion daro rhannau helaeth o Gymru ddydd Sadwrn.

Dywedodd Scottish Power Energy Networks bod tua 1,000 o dai wedi bod heb gyflenwad trydan yn y canolbarth a'r gogledd.

Yn ôl cwmni Western Power, roedd cannoedd hefyd wedi cael eu heffeithio yn Sir Benfro ac yng Ngheredigion.

Mae'r ddau gwmni wedi dweud eu bod nhw'n ymateb i'r sefyllfa.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion dros Gymru gyfan ar gyfer dydd Sadwrn wrth i storm Hannah daro'r DU.

Daeth y rhybudd i ben am 15:00 brynhawn Sadwrn.

Trafferthion ar y ffyrdd

Roedd rhan o'r A55 rhwng cyffyrdd dau a tri i gyfeiriad y gorllewin wedi cau ar ôl i goeden ddisgyn ar y lôn.

Mae Pont Hafren ar yr M48 wedi bod ar gau i gyfeiriad y dwyrain, ac i gerbydau uchel i gyfeiriad y gorllewin.

Cafodd yr A484 ei chau yn rhannol ger Idole, Sir Gaerfyrddin, ac roedd Pont Cleddau yn Sir Benfro ar gau i gerbydau uchel am gyfnod.

Roedd disgwyl y byddai gwasanaethau bysiau, trenau, awyrennau a llongau fferi hefyd yn ddioddef.

Mewn ardaloedd arfordirol, mae'n bosib y bydd cymunedau'n diodde' o ganlyniad i donnau uchel iawn gyda pheth llifogydd yn bosibl.