Dyn yn pledio'n ddieuog i ddynladdiad ym Mhontllanfraith
- Cyhoeddwyd

Bu farw Christopher Gadd yn dilyn y digwyddiad ym mis Mawrth
Mae dyn 22 oed wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad dyn arall y tu allan i archfarchnad yn Sir Caerffili ym mis Mawrth.
Mae Timothy Higgins wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth Christopher Gadd, 48, ym maes parcio archfarchnad Sainsbury's ym Mhontllanfraith.
Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Higgins wedi taro Mr Gadd tra'n gyrru cerbyd Land Rover Freelander.
Mae Mr Higgins hefyd yn gwadu dau gyhuddiad arall, sef achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant a gyrru'n groes i'w drwydded.
Cafodd Mr Higgins ei ryddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ym mis Gorffennaf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad honedig ger archfarchnad Sainsbury's ym Mhontllanfraith
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019