Gwrthod galwadau am wersi CPR gorfodol
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog addysg wedi gwrthod galwadau i gyflwyno gwersi CPR gorfodol mewn ysgolion fel rhan o'r cwricwlwm Cymraeg newydd.
Mae British Heart Foundation (BHF) Cymru yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno gwersi sgiliau dadebru brys ym mhob ysgol.
Fe fyddai'r newid o fantais i bobl sy'n dioddef ataliad ar y galon tu allan i ysbytai, yn ôl yr elusen.
Ond dywedodd Kirsty Williams bod y cwricwlwm newydd yn dargyfeirio o osod rhestr benodol o bynciau - ond bod dim byd yn atal athrawon rhag dysgu sgiliau dadebru brys.
Mae CPR yn ddull o achub bywyd a gaiff ei berfformio ar rywun sy'n cael ataliad ar y galon.
Pan fyddai calon yr unigolyn yn methu, mae CPR yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o geisio sicrhau bod gwaed y person yn parhau i redeg trwy'r corff.
Mae tua 2,800 achos o ataliad ar y galon, a rheini tu allan i ysbyty, yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn,
Ond ar hyd y DU, mae llai na un o bob deg person yn goroesi.
Mae BHF Cymru yn honni bod y gyfradd yma'n is na gwledydd eraill.
'Cenedl o achubwyr'
Eglurodd Rhodri Thomas o BHF Cymru, bod nifer y bobol sy'n goroesi ar ôl trawiad y galon yn llawer uwch mewn gwledydd fel Denmarc a Norwy, lle mae CPR yn cael ei ddysgu i bawb.
Dywedodd BHF Cymru bod aelodau o'r cyhoedd yn llawer mwy tebygol o berfformio CPS mewn gwledydd o'r fath, ac felly bod ffigurau goroesi mor uchel â 25% - tair gwaith yn uwch nag yn y Deyrnas Unedig.
Maen nhw'n amcangyfrif y gall 5,000 yn fwy o fywydau eu hachub yn DU pob blwyddyn, petai modd cyflawni ffigurau goroesi tebyg.
Esboniodd Mr Thomas bod BHF Cymru yn trio "creu gwlad a chenedl o achubwyr bywyd".
"Mae ystadegau CPR yn isel iawn yma yng Nghymru... ond ni'n gobeithio trwy ddodi fe ar y cwricwlwm cenedlaethol fe fydd mwy o bobl yn gallu byw," meddai.
'O fudd i bawb'
Yn Ysgol Gyfun Garth Olwg mae disgyblion blwyddyn 12 yn derbyn gwersi CPR, ac yn trosglwyddo'r sgiliau hynny i ddisgyblion iau.
Mae'r ysgol yn cael ei hystyried gan BHF Cymru fel un sy'n gosod esiampl dda.
Eglurodd Carys Amos, dirprwy brifathrawes yr ysgol, eu bod nhw'n teimlo cyfrifoldeb i "ddarparu mwy na jyst cwricwlwm academaidd i'n disgyblion".
"Mae o er budd pawb, dydw i ddim yn gallu sut bod unrhyw un yn gallu dadlau yn erbyn rhoi'r ddarpariaeth o'r math yma ar gwricwlwm unrhyw ysgol yn y dyddiau sydd ohoni", meddai.
Ond ar drothwy cyhoeddi'r cwricwlwm newydd, gwrthod y galwad wnaeth Kirsty Williams.
"Un o'r rhesymau dros newid ein cwricwlwm cenedlaethol ydi galluogi i ni symud i ffwrdd o'r drefn bresennol, sef bod y llywodraeth yn gosod rhestr hir o bynciau i'r athrawon i'w dysgu," eglurodd.
"Rydym yn symud i'r drefn lle gallem ymddiried mewn athrawon i ddefnyddio eu barn a'u creadigrwydd i ddatblygu a chreu cwricwlwm yn seiliedig ar anghenion eu disgyblion."
Ac er bod y cwricwlwm newydd yn rhoi rhyddid i athrawon, roedd y gweinidog yn awyddus i bwysleisio bod strwythur i'r drefn newydd.
"Fe fydd strwythur... felly bydd digon o gyfleoedd a bydd dim yn atal ysgolion rhag dysgu CPR a sgiliau achub bywyd dan y cwricwlwm newydd," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019