Heddlu'r De yn ymchwilio i lofruddiaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Cathays ddiwedd pnawn dydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Cathays ddiwedd pnawn dydd Mawrth

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth menyw 21 oed yn ardal Cathays ddydd Mawrth.

Fe gafodd swyddogion eu galw i Stryd Glynrhondda tua 18:10

Mae dyn 22 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dyw enw'r ferch ddim wedi cael ei gadarnhau eto ond mae'r heddlu yn credu ei bod yn byw yn lleol.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac mae'n nhw'n derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol yr heddlu.