Beth yw sefyllfa Cymru wedi 20 mlynedd o ddatganoli?

  • Cyhoeddwyd
laura

Mae hi'n 20 mlynedd ers yr etholiadau cyntaf ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar 6 Mai 1999, mewn system gwbl newydd, etholwyd 60 o Aelodau Cynulliad; 28 i'r Blaid Lafur, 17 i Blaid Cymru, naw i'r Ceidwadwyr a chwe aelod i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Felly sut mae dechrau ar y dadansoddi o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru ers hynny? Mae Laura McAllister yn Athro yn y maes Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru.

Dyma asesiad Laura o'r 20 mlynedd o ddatganoli a'r hyn yr hoffai ei weld yn digwydd yn y dyfodol.

Llwyddiannau datganoli?

O ystyried llwyddiannau datganoli mae'n rhaid canolbwyntio ar y pethau cyffredinol a'r polisïau sydd wedi cael eu rhoi mewn lle gan Lywodraeth Cymru, pethau fel presgripsiwn am ddim a pharcio mewn ysbytai am ddim, teithio rhad i bobl hŷn, ac wrth gwrs gwaharddiadau ar smocio mewn tafarndai, ac ati - Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf i wneud hyn. Hefyd mae rheolau wedi eu creu o amgylch y defnydd o fagiau plastig - gyda Chymru yn arwain y ffordd unwaith eto yn y maes yma.

Ond yn fy marn i, mae gormod o sylw wedi cael ei roi ar bolisïau cyffredin, neu universal, heb feddwl yn fanwl am yr effaith ar y gyllideb gyfan i Gymru. Achos does dim lot o arian i'w wario yng Nghymru ac os ydych chi'n gwario'r mwyafrif ar bolisïau cyffredinol does dim lot i wneud pethau sy'n cael yr effaith mwyaf ar fywydau pobl Cymru - mae rhai yn dweud mai cymryd yr opsiwn hawsaf yw hwn.

Methiannau?

Mae'n swnio braidd yn od, ond wrth drafod yr elfennau mwyaf siomedig am ddatganoli dwi'n canolbwyntio ar y sylw gafodd ei roi ar faterion cyfansoddiadol ers dechrau datganoli. Y rheswm am hyn wrth gwrs yw nad oedd y math o ddatganoli a grewyd yn 1999 yn fit for purpose.

Mae'n wallgo' edrych nôl achos doedd dim gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad cyfan, ac mae'n mynd yn groes i egwyddorion cyfansoddiadol go iawn. Dyna oedd y broblem fawr yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, achos roedd rhaid i ni ganolbwyntio ar sortio pethau cyfansoddiadol mas ac nid y pethau dydd i ddydd oedd o bwys i bobl Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dathlu canlyniad y refferendwm ar ddatganoli a arweiniodd at greu y Cynulliad, 18 Medi , 1997

Ond wedi dweud hynny, mae'n bwysig iawn rhoi sylw i gydraddoldeb a chynrychioliaeth deg (equal representation) sydd wedi ei greu yn y Cynulliad. Mae 47% o'r Aelodau Cynulliad nawr yn fenywod, ac yn y gorffennol mae wedi bod yn 50-50, ac mae hwn wedi bod yn dipyn o gamp i Gymru i'n sefydlu ni fel cenedl sy'n rhoi pwysigrwydd ar bethau fel 'na a sicrhau bod menywod a phobl eraill yn cael eu wir gynrychioli yn y Cynulliad.

Un blaid yn rheoli

Dwi'n meddwl hefyd ei bod hi'n drueni nad oes llywodraeth o liw arall wedi cael ei ethol erbyn hyn. Wrth gwrs dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd yn y dyfodol, ond mae'r Blaid Lafur wedi bod yn rhedeg y Llywodraeth yma ers 1999, ambell waith gyda phlaid arall (Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru) am sbel (1999-03, 2007-11 ac 2016-heddiw), ond does dim llawer o siawns ar gyfer adnewyddu neu foderneiddio os ydych chi wastad yn rhedeg y Llywodraeth ac mae hyn yn sicr wedi cael effaith ar Blaid Lafur Cymru.

Dwi'n meddwl hefyd bod gwledydd sy'n cael mwy o blwraliaeth etholiadol fel arfer yn creu polisïau mwy arloesol a radical. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid dweud does dim bai ar Lafur eu bod nhw wedi ennill pob etholiad - bai'r pleidiau eraill yw e am beidio ennill etholiad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ers mis Rhagfyr, 2018

Cymru'n perfformio'n rhyngwladol

Mae pawb yn canolbwyntio ar berfformiad y gwasanaeth iechyd ac addysg yng Nghymru, ond mae'n rhaid cofio bod yr etifeddiad o ddatganoli yma yn wahanol iawn i'r Alban, a hefyd Gogledd Iwerddon. Rydyn ni wedi cael strwythurau economaidd eithaf anodd, a hynny ar boblogaeth sy'n mynd yn hŷn yn gyflymach na gweddill y Deyrnas Unedig. Ac felly mae'n anodd iawn gyda chyllideb eithaf bach i newid pethau'n ddigon cyflym.

Wrth gwrs mae yna broblemau ym meysydd iechyd ac addysg yng Nghymru, ond dwi'n meddwl nawr gyda'r cwricwlwm newydd fod siawns mawr i wneud rhywbeth sy'n adeiladu ar y cyfnod sylfaen a dysgu drwy chwarae ayyb, a sefydlu rhywbeth fydd yn ein codi yn netholion PISA a sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau ym Mhrydain.

Hyder newydd?

Mae'r polau opiniwn yn dangos bod y bobl yn credu mewn datganoli bellach ac eisiau iddo aros, a hefyd eisiau gweld datganoli cryfach hefyd. Ond dydyn nhw ddim yn gefnogol o'r llywodraeth a'i pholisïau - a dyna'r gwahaniaeth. Does yna ddim dealltwriaeth i wahaniaethu rhwng y Llywodraeth a'r Senedd yn ei gyfanrwydd.

Mae yna lawer i'w wneud yn y dyfodol i sicrhau bod pobl yn deall y gwahaniaeth, a hefyd falle addysgu pobl yn well am y system etholiadol rydyn ni'n ei defnyddio ar gyfer y Cynulliad. Ffordd arall o edrych ar bethau yw drwy edrych ar sut oedd pethau heb y Cynulliad, a dydw i ddim yn meddwl gall Cymru wneud pethau yn wahanol, na amddiffyn cymunedau Cymru heb y Cynulliad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

A fydd mwy o bwerau'n dod i Fae Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf?

Y dyfodol

Dwi'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Senedd gyfan yn cefnogi argymhellion o adroddiad rydw i wedi bod yn gweithio arno fel rhan o dîm - 'Creu Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Dwi'n gobeithio y bydd gan y Cynulliad y nifer iawn o aelodau er mwyn gwneud y gwaith yn effeithiol, a hefyd y system etholiadol i'w wneud yn fwy cyfrannol a chael mwy o amrywiaeth yn y Cynulliad.

Ond eto pethau cyfansoddiadol yw'r rheiny, y pethau pwysicaf yw gwella'r system iechyd, trafnidiaeth, datblygiadau economaidd a'r system addysg. Dyna'r gobaith i bawb i ddweud gwir, i weld Cymru'n codi o waelodion y tablau perfformio mewn gwahanol feysydd, ac ein bod yn wlad sy'n gwneud pethau ychydig yn wahanol a gwneud pethau sy'n gwella'r economi a bywydau pobl go iawn. Yn ogystal, mae angen dangos mwy o hyder i wneud pethau sy'n arwain at y newidiadau rydyn ni eu angen!

Hefyd o ddiddordeb: