Wylfa Newydd: 'Gwerthwch neu ddatblygwch safle atomfa'
- Cyhoeddwyd
Dylai datblygwr atomfa Wylfa Newydd ailgydio yn y cynllun neu werthu'r safle i gwmni arall "sy'n barod i ymgymryd â'r gwaith", yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.
Cyhoeddodd cwmni Hitachi ym mis Ionawr bod yr holl waith yn dod i stop yn Ynys Môn wedi methiant i ddod i gytundeb ariannol gyda Llywodraeth y DU.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn galw ar y cwmni o Japan i "ystyried cynlluniau ariannu newydd sy'n cynnig posibiliadau ar gyfer adfer y gwaith".
Roedd aelodau'r pwyllgor hefyd am i Hitachi "chwilio am gwmnïau sy'n datblygu prosiectau amgen ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel".
Mae adroddiad y pwyllgor yn annog cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ariannu a hwyluso prosiectau eraill yng ngogledd Cymru "er mwyn llenwi'r bwlch a adawyd gan ddatblygiad Wylfa Newydd".
Ac mae yna alw ar Lywodraeth y DU a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear i drafod cyfleoedd ar gyfer prentisiaid wrth ddigomisiynu cyn-safleoedd Wylfa a Thrawsnewydd er mwyn cadw sgiliau yng ngogledd Cymru.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies bod cyhoeddiad Hitachi ddechrau'r flwyddyn am y penderfyniad i ohirio'r gwaith "yn ergyd i gymunedau a'r economi leol".
"Clywodd fy Mhwyllgor fod y nodweddion daearegol delfrydol a'r nifer helaeth o weithwyr medrus yn yr ardal yn golygu bod safle'r Wylfa Newydd yn lleoliad addas ar gyfer datblygiad niwclear, a'r ardal ehangach yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau carbon isel," meddai.
"Mae'r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i fanteisio ar yr elfennau hyn trwy sicrhau bod modd datblygu amrywiaeth o brosiectau ynni posib ar y safle."
Dywedodd llefarydd ar ran is-gwmni Hitachi, Pŵer Niwclear Horizon, eu bod nhw'n croesawu'r adroddiad a'r "pwysigrwydd mae'n rhoi i brosiect Wylfa Newydd".
Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw'n "cadw opsiynau ar agor am ddatblygiadau niwclear ar Ynys Môn i ailddechrau yn y dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019