Cynhadledd Ceidwadwyr: Heclo Theresa May

  • Cyhoeddwyd
Theresa May

Fe gafodd Prif Weinidog y DU, Theresa May ei heclo wrth ddod i'r llwyfan i annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen ddydd Gwener.

Wrth iddi gamu at y llwyfan, fe waeddodd Stuart Davies - a fu'n gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych - "dydyn ni ddim eich eisiau chi," cyn iddo gael ei hebrwng o'r neuadd.

Er mai cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig oedd hon, fe dreuliodd Mrs May llawer o'i haraith yn sôn am etholiadau lleol Lloegr ddydd Iau.

Roedd y canlyniadau, meddai, yn neges syml i'r Ceidwadwyr a Llafur i fwrw 'mlaen gyda Brexit.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr a Llafur golledion mawr yn yr etholiadau.

Mae'r Ceidwadwyr yn Lloegr wedi colli cannoedd o seddi a cholli rheolaeth dros sawl cyngor dros nos yn yr etholiadau lleol.

Rhybudd gadael heb gytundeb

Pan ofynwyd i Mrs May os oedd Mr Davies yn cynrychioli barn nifer o Geidwadwyr Cymreig, dywedodd wrth BBC Cymru: "Fe welsoch chi'r ymateb yn y neuadd. Fe roddodd y gynulleidfa ymateb clir iddo."

Mae Llangollen yn etholaeth De Clwyd, lle cynhaliwyd cangen leol y blaid bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weindiog yn yr wythnos ddiwethaf.

Mae Mr Davies yn aelod o gangen De Clwyd, ac fe gyhuddodd Mrs May o "lusgo'r blaid i anfri. Mae angen Prif Weinidog newydd arnom ni a mae angen hynny arnom ni cyn gynted a phosib".

Yn ei haraith, rhybuddiodd Mrs May yn erbyn gadael heb gytundeb.

Dywedodd bod angen cytundeb Brexit "sydd yn gweithio ar gyfer ein cynhyrchwyr a'n hallforwyr… ni fyddai gadael heb gytundeb yn gwneud hynny".

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyfaddefodd Paul Davies fod yn rhaid iddo godi ei broffil

Cyn i'r gynhadledd ddechrau, roedd arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad wedi cyfaddef bod canlyniadau etholiadau lleol nos Iau wedi bod yn rhai "anodd" i'r blaid.

Roedd Paul Davies yn siarad wedi i'r Ceidwadwyr wedi colli dros 950 o seddi hyd yma - a rheolaeth 34 o gynghorau - gyda rhai yn amcan bydd y ffigwr yn nes at 1,000 erbyn i'r holl bleidleisiau ddod i mewn.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: "Rwy'n derbyn bod hi wedi bod yn anodd dros y misoedd diwethaf oherwydd Brexit.

"Yr hyn mae'r Prif Weinidog [Theresa May] a Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud yw ceisio delifro Brexit.

"Ond yn anffodus mae Aelodau Seneddol wedi methu gwneud hynny."

Codi proffil yr arweinydd

Does dim etholiadau lleol yng Nghymru na'r Alban.

Fe gyfaddefodd Mr Davies hefyd fod ganddo waith i'w wneud i godi ei broffil.

"Rwy'n derbyn yn llwyr fod gen i lawer o waith i'w wneud," meddai.

"Rwy'n barod wedi cychwyn mynd o amgylch Cymru yn siarad gyda phobl a chymunedau am y materion sy'n bwysig iddyn nhw.

"Bydd gen i neges bositif ar gyfer pobl Cymru."