Darganfyddiad 3,500 oed ar safle ffordd osgoi newydd

  • Cyhoeddwyd
twmpathFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai un o'r tri chafn sydd o dan y twmpath llosg fod yn ganŵ - canfyddiad prin iawn

Mae gweithwyr ar ffordd osgoi newydd yn dweud eu bod wedi dod ar draws "darganfyddiad sylweddol" posib sy'n dyddio 'nôl miloedd o flynyddoedd.

Mae gwaith archeolegol ar safle ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi datgelu twmpath llosg mawr sydd tua 3,500 o flynyddoedd oed.

Mae'n bosib y gallai un o'r tri chafn sydd o dan y twmpath llosg fod yn ganŵ sydd wedi'i ddatgladdu.

Er bod twmpathau llosg yn safleoedd cymharol gyffredin, gallai datgelu twmpath sy'n mesur tua thri metr fod yn "ddarganfyddiad arwyddocaol", yn ôl archeolegwyr.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, ei bod hi'n bosib "na fyddai'r darganfyddiadau pwysig hyn wedi digwydd heb y ffordd osgoi hon".

Cadarnhaodd bod yr ymchwiliadau yma "wedi'u cynllunio o'r dechrau'n deg" ac na fydd unrhyw oedi i'r amserlen adeiladu oherwydd y gwaith cloddio.

Y gobaith ydy y bydd gwaith adeiladu'r ffordd wedi'i gwblhau erbyn hydref 2021.

Beth ydy'r darganfyddiad?

Er nad oes amheuaeth fod y darganfyddiad yn un hynafol, mae ei arwyddocâd yn aneglur ar hyn o bryd.

Daeth yn amlwg yn ystod y gwaith cloddio fod darn mawr o bren wedi'i warchod o fewn y cafn a allai ddyddio yn ôl i o leiaf 1500CC.

Roedd yn foncyff i hen goeden dderw a oedd wedi'i gafnu, ac mae archeolegwyr yn credu ei fod yn debygol o fod yn ganŵ a gafodd ei ailddefnyddio fel cafn.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd unrhyw oedi i adeiladu'r ffordd osgoi yn sgil y gwaith archeolegol, yn ôl Llywodraeth Cymru

Ond mae'n bosib mai cafn oedd o'r dechrau yn hytrach na chanŵ.

Os mai canŵ ydy'r pren sydd wedi'i warchod yn dda iawn, mae'n ddarganfyddiad prin iawn.

Mae'r pren bellach wedi'i godi ac mae wrthi'n cael ei asesu ymhellach gan arbenigwyr.