Dyn yn gwadu llofruddio'i bartner â morthwyl yn eu cartref

  • Cyhoeddwyd
Teresa GarnerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Teresa Garner ym mis Hydref y llynedd

Clywodd llys bod dyn o Sir y Fflint wedi ffonio 999 yn cyfaddef iddo "lofruddio" ei bartner.

Mae John Garner yn cyfaddef iddo ladd Teresa Garner, 46, yn y tŷ roedden nhw'n ei rannu ym Mhen-y-Ffordd, Treffynnon fis Hydref y llynedd.

Ond mae Mr Garner, sy'n 51 oed, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Clywodd Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Mawrth fod Garner wedi lladd ei bartner mewn "ymosodiad parhaus a ffyrnig" gyda morthwyl ar fore 24 Hydref y llynedd.

Clywodd y rheithgor recordiad o'r alwad 999 a wnaeth yn fuan wedyn pan ddywedodd wrth y gweithredwr: "Dwi'n credu 'mod i wedi llofruddio'r missus."

'Mewn tymer'

Clywodd y llys bod Mr Garner wedi cael gwybod bod Ms Garner yn ôl mewn cysylltiad gyda dyn yr oedd hi wedi bod mewn perthynas ag ef 17 mlynedd ynghynt.

Dywedodd John Philpotts - y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad - bod Mr Garner "mewn tymer" ar ôl i gymydog ddweud fod Ms Garner wedi cael ei gweld yn siarad â Stuart Jones - oedd hefyd yn dad i'w phlentyn - bedwar diwrnod cyn ei marwolaeth.

Roedd Mr Garner, meddai'r erlyniad, hefyd wedi dweud wrth gymydog arall ei fod wedi gweld neges destun gan Stuart Jones ar ffôn ei bartner.

Dywedodd Mr Philpotts fod Mr Garner wedi dweud wrth ffrind ei fod yn gwybod "beth i'w wneud".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Teresa Garner ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd

Mae'r erlyniad yn dweud bod yr hyn a ddywedodd yn yr alwad i'r heddlu yn gywir - ei fod wedi llofruddio Ms Garner, gan arfogi ei hun gyda'r morthwyl cyn yr ymosodiad, a ddechreuodd ar landin y tŷ ond a ddaeth i ben yn yr ystafell ymolchi.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi ymddangos yn feddw i'r heddlu, a'i fod wedi dweud wrth nyrs ym mhencadlys yr heddlu yn Llanelwy yn ddiweddarach ei fod yn gwybod beth roedd wedi'i wneud, ac na fyddai'n troi'r cloc yn ôl hyd yn oed os allai wneud hynny.

Dywedodd wrthi hefyd fod yr hyn a ddigwyddodd wedi digwydd oherwydd bod Stuart Jones wedi dychwelyd i'w bywydau.

Yn ystod cyfweliadau'r heddlu, dywedodd Mr Garner ei fod yn feddw'r bore hwnnw ond ei fod yn bwriadu trwsio lloriau pren, ac nad oedd ganddo atgof o ymosod ar Ms Garner.

Pan ddangoswyd iddo ddelwedd o forthwyl hollt wedi'i staenio â gwaed a oedd wedi'i ganfod mewn gardd gyfagos, dywedodd ei fod yn adnabod y morthwyl fel ei un ef, ond nid oedd yn cofio ei daflu i'r ardd.

Tystiolaeth Stuart Jones

Clywodd y llys hefyd gan Stuart Jones, a wnaeth gyfaddef ei fod wedi bod mewn cysylltiad â Teresa Garner o ddechrau fis Hydref y llynedd.

Dywedodd nad oedd wedi bod yn rhan o fagwraeth ei ferch, Kimberley, ond ei fod yn ceisio ailafael yn y berthynas.

Yn sgil hynny, roedd mewn cyswllt â Ms Garner ac fe ddywedodd ei fod wedi bod yn "fflyrtio" yn rhai o'r negeseuon rhyngddyn nhw wrth drafod trefniadau ymweld.

Fe wadodd ei fod yn cynllwynio i ailafael mewn perthynas gyda Ms Garner, er iddo gyfaddef anfon neges ati'n awgrymu hynny.

Dywedodd bod Ms Garner wedi dweud wrtho fod "pethau'n anodd gyda John".

Mae'r achos yn parhau.