Liz Saville Roberts ddim am sefyll fel Aelod Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn sefyll fel Aelod Cynulliad yn yr etholiadau nesaf yn 2021.
Mae Liz Saville Roberts wedi awgrymu yn y gorffennol y gallai hi roi ei henw yn yr het fel ymgeisydd y blaid yn Nwyfor Meirionydd.
Ond mae hi bellach wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll ar gyfer Bae Caerdydd, gan ddweud y bydd hi'n "parhau i gynrychioli'r etholaeth" yn San Steffan.
Mae'r broses o ddewis ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd wedi dechrau a bydd cyfarfodydd hystings yn digwydd fis nesa'.
Fe adawodd yr Arglwydd Ellis-Thomas y blaid i fod yn Aelod Cynulliad annibynnol yn Hydref 2016.
"Rwy'n hynod o falch o gael cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd," meddai Ms Saville Roberts.
"Byddaf yn parhau i wneud hynny cyn belled a mai dyna yw dymuniad fy etholwyr.
"Yn ystod yr argyfwng gwleidyddol yma, gyda llywodraeth Lafur ddi-fflach yng Nghaerdydd, ry'n ni angen AC Plaid Cymru cryf yn yr ardal fel bod llais Dwyfor Meirionnydd yn cael ei glywed ar ddau ben yr M4."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2016