Angen golwg 'manwl' ar brofion disgyblion cynradd
- Cyhoeddwyd
Mae angen edrych yn fanwl ar bwrpas profion ysgol i blant chwech a saith oed yng Nghymru, yn ôl y comisiynydd plant.
Mae Sally Holland yn gobeithio y bydd newid i asesiadau ar-lein yn lleihau'r pwysau ar ddisgyblion.
Ond mae'n cyfaddef ei bod hi'n "synnu" mai pryderon ynglŷn â phrofion ddaeth i'r brig mewn arolwg diweddar o ddisgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai asesiadau newydd yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion ynglŷn â phryd i'w cynnal.
Mewn ysgolion cynradd, mae disgyblion Blwyddyn 2 i 6 yn sefyll arholiadau darllen a rhifedd cenedlaethol yr wythnos hon, ar ôl i brofion i ddisgyblion Blwyddyn 7 i 9 ddechrau yr wythnos diwethaf.
Yn ôl yr arolwg o 6,902 o blant saith i 11 oed roedd nifer uwch yn poeni mwy am brofion o'i gymharu â bwlio.
Beth sy'n achosi pryder i blant 7-11 oed?
42% - profion
40% - bwlio
27% - problemau teuluol
25% - dim o'r agweddau yn yr arolwg
24% - gwaith ysgol
20% - iechyd
Ffynhonnell: Comisiynydd Plant Cymru, 2019
"Dwi'n derbyn nid bwriad y llywodraeth yw hyn ac maen nhw'n dweud does dim rhaid i blant adolygu neu ymarfer am y profion ond mae'n rhaid iddyn nhw gydnabod bod y profion yn achosi stress a phryderon i nifer o blant," meddai Ms Holland.
"Dwi ddim yn siŵr os ydyn nhw'n teimlo pwysau gan athrawon, rhieni neu blant eraill ond mae'n amlwg bod nifer o blant yn teimlo'r stress o brofion yng Nghymru."
Ychwanegodd y gallai hynny gael effaith ar hyder a hunan-barch plant.
"Dywedodd rhywun wrtha i fod ei phlentyn oedd newydd droi'n saith oed wedi dweud am y tro cyntaf nad oedd am fynd i'r ysgol gan fod prawf ganddo - mae hynny'n drueni mawr gan mai mwynhad pur a hwyl y dylai dysgu fod yr oedran yna," meddai Ms Holland.
Dywedodd y comisiynydd fod angen gwybod yn glir beth yw pwrpas y profion - a phryd i'w cyflwyno.
"Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod angen i blant chwech neu saith oed fod yn ymarfer ar gyfer arholiadau allanol - mae'n ddigon i ddelio â rhwystrau'n ymwneud â chyfeillgarwch, ysgolion a dysgu," meddai.
Profion yng Nghymru
Fe gafodd profion darllen a rhifedd cenedlaethol eu cyflwyno yn 2013 ar ôl i brofion TASau gael eu dileu ddegawd ynghynt.
Y Gweinidog Addysg ar y pryd, Leighton Andrews, wnaeth eu cyflwyno yn sgil pryderon bod Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso safonau gan arwain at ganlyniadau gwael mewn profion Pisa rhyngwladol.
Dros y blynyddoedd mae'r profion wedi eu cyflwyno llai i fesur ysgolion, gyda mwy o bwyslais ar ddilyn cynnydd disgyblion unigol a llywio camau nesaf eu haddysg.
Yn 2018, fe gyhoeddodd y llywodraeth na fyddai canlyniadau ysgolion unigol bellach yn cael eu cymharu ag eraill yn yr ardal, er bod y wybodaeth am ganlyniadau eu plentyn a'r ysgol dal i fod ar gael i rieni.
Mae asesiadau ar-lein personol yn cael eu cyflwyno'n raddol dros y tair blynedd nesaf - wedi'u teilwra i ddisgyblion unigol.
Mae'r comisiynydd yn gobeithio y byddan nhw'n lleihau'r pwysau. Bydd ysgolion yn gallu asesu disgyblion ar adeg o'u dewis yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd Ms Holland y byddai nifer yn dadlau bod plant chwech neu saith oed yn rhy ifanc i fod yn sefyll profion.
Mae hi'n dadlau bod y cyfnod sylfaen - ar gyfer plant rhwng tair a saith oed - sy'n annog dysgu drwy chwarae, wedi bod yn llwyddiant ond bod y plant yn wynebu profion eithaf ffurfiol ar ddiwedd y cyfnod.
"Rwy'n credu bod yr amser wedi dod, yn enwedig wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, i gael golwg wirioneddol fanwl ar bwrpas y profion hyn," meddai.
Profion 'ddim yn ddefnyddiol iawn'
Dywedodd Prifathrawes Ysgol Gynradd Moorland yng Nghaerdydd nad yw'r profion yn ddefnyddiol iawn i athrawon.
"Does gen i ddim problem gyda phrofion mewn fformat addas," meddai Jane Jenkins ar raglen Good Morning Wales BBC Radio Wales.
"Mae athrawon yn weithwyr proffesiynol sy'n profi plant mewn sawl ffordd pob dydd.
"Nid y profion rydyn ni'n gwrthwynebu, ond fformat y profion cwricwlwm cenedlaethol sydd, yn syml, ddim yn ddefnyddiol iawn i ni."
Ychwanegodd bod "asesiad llawer mwy defnyddiol, yn yr ysgol, bob un dydd".
'Hyblygrwydd i ysgolion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei ganllawiau'n glir na ddylai disgyblion boeni neu deimlo pryder am arholiadau.
"Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd, ry'n ni eisoes yn cyflwyno asesiadau personoledig ar-lein i gymryd lle'r profion traddodiadol darllen a rhifedd ar bapur," meddai llefarydd.
"Mae'r asesiadau yma'n rhoi profiad rhyngweithiol wedi'i deilwra i gadw sylw dysgwyr ac asesu eu sgiliau, yr hyn efallai sydd angen iddyn nhw weithio arno, a'u camau nesaf.
"Mae gan ysgolion yr hyblygrwydd i benderfynu pryd i'w cynnal er mwyn eu helpu i gynllunio eu dysgu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019