Y naw o '99

  • Cyhoeddwyd
99Ffynhonnell y llun, ELIN JONES

Yn 1999 cafodd 60 aelod eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi etholiadau cynta'r sefydliad.

Ers hynny mae pwerau'r Cynulliad wedi cynyddu, mae adeilad newydd - y Senedd - wedi ei adeiladu ym Mae Caerdydd, ac mae'r aelodau sydd ynddo wedi newid cryn dipyn.

Ond mae yna naw Aelod Cynulliad a gafodd eu hethol yn 1999 sydd wedi gwasanaethu yn ddi-dor hyd heddiw.

Mae dau arall sy'n aelodau heddiw (Helen Mary Jones a Dai Lloyd o Blaid Cymru) a oedd wedi eu hethol gyntaf yn 1999 hefyd, ond cafodd y ddau gyfnod tu allan i'r Siambr dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Fe wnaeth Y Llywydd, Elin Jones, drydar llun, dolen allanol o'r naw aelod a oedd yn rhan o'r criw gwreiddiol.

line

Dyma'r naw aelod (o'r chwith i'r dde):

Ann Jones, Llafur

Yn enedigol o'r Rhyl, mae Ann Jones yn Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd. Hi yw Dirprwy Lywydd y Cynulliad ar hyn o bryd.

Carwyn Jones, Llafur

Mae Carwyn Jones yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers yr etholiadau gwreiddiol yn 1999. Mr Jones oedd Prif Weinidog Cymru o 10 Rhagfyr, 2009 tan 12 Rhagfyr, 2018.

Elin Jones, Plaid Cymru

Elin Jones yw'r Llywydd presennol ac mae hi wedi cynrychioli etholaeth Ceredigion ers 1999. Ms Jones, a gafodd ei geni yn Llambed, oedd maer ieuengaf Aberystwyth pan oedd hi yn y swydd rhwng 1997 a 1998.

Lynne Neagle, Llafur

Mae Lynne Neagle wedi cynrychioli Torfaen ers ugain mlynedd, a chyn hynny fe roedd hi'n ymchwilydd i'r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Glenys Kinnock. Roedd ei gŵr, Huw Lewis hefyd yn Aelod Cynulliad, gan gynrychioli Merthyr Tudful a Rhymni rhwng 1999 ac 2016.

Kirsty Williams, Democratiaid Rhyddfrydol

Dim ond 28 mlwydd oed oedd Kirsty Williams pan gafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Frycheiniog a Maesyfed. Ms Williams yw'r Gweinidog Addysg ar hyn o bryd.

John Griffiths, Llafur

Mae John Griffiths yn Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Casnewydd ers sefydlu'r Cynulliad. Mae wedi bod yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg ac yn Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Jane Hutt, Llafur

Ganwyd Jane Hutt yn Epsom, Surrey, ond roedd ei nain a'i thaid yn siaradwyr Cymraeg o ogledd Cymru. Mae hi'n cynrychioli etholaeth Bro Morgannwg ac wedi cael saith rôl weinidogol ers 1999.

David Melding, Ceidwadwyr

Cafodd David Melding ei eni yng Nghastell-nedd yn 1956 ac mae wedi cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ers 1999. Roedd Mr Melding yn Ddirprwy Lywydd ar y Cynulliad rhwng 2011 ac 2016.

Dafydd Elis-Thomas, Annibynnol

Yn gyn-arweinydd ar Blaid Cymru, cafodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei ethol yn enw'r blaid yn 1999 dros etholaeth Meirionnydd Nant Conwy gyda mwyafrif o bron i 9,000. Dafydd Elis-Thomas oedd Llywydd cynta'r Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd yn y swydd o 1999 i 2011.

Dwyfor-Meirionnydd yw ei etholaeth bellach, ac mae'n Aelod Cynulliad annibynnol ers gadael Plaid Cymru ym mis Hydref 2016. Bellach yr Arglwydd Elis-Thomas yw'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

line