Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2019
- Cyhoeddwyd

Dyma'r tair nofel sydd yn cystadlu yng nghategori ffuglen orau 2019
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestrau byr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019.
Mae'r gwobrau'n cael eu rhoi ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe fydd gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.
Fe fydd enwau'r buddugol yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 20 Mehefin.

Rhestrau Byr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2019
Gwobr Farddoniaeth
• Twt Lol - Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
• Cyrraedd a Cherddi Eraill - Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
• Stafell fy Haul - Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
• Ynys Fadog - Jerry Hunter (Y Lolfa)
• Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
• Esgyrn - Heiddwen Tomos (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
• Cymru mewn 100 Gwrthrych - Andrew Green (Gwasg Gomer)
• Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen' - Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
• Rhyddhau'r Cranc - Malan Wilkinson (Y Lolfa)

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Dyma gyfrolau sy'n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd.
"Mae iechyd meddwl a hunaniaeth - boed yn bersonol neu'n genedlaethol - yn llinyn cyswllt drwy'r cyfan.
"Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru."
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r darlledwr Dylan Ebenezer, Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth a'r bardd ac awdur Idris Reynolds.
Mae'r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Sandeep Parmar, Dr Louise Holmwood-Marshall o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Emeritws Russell Celyn Jones.

Mae llyfrau ffeithiol greadigol Andrew Green, Lisa Sheppard a Malan Wilkinson wedi cyrraedd y rhestr fer
Rhestrau Byr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2019
Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias
• Insistence - Ailbhe Darcy (Bloodaxe)
• Salacia - Mari Ellis Dunning (Parthian)
• Gen - Jonathan Edwards (Seren)
Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
• Arrest Me, for I Have Run Away - Stevie Davies (Parthian)
• West - Carys Davies (Cyhoeddiadau Granta)
• Sal - Mick Kitson (Canongate)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
• Moneyland - Oliver Bullough (Profile)
• The light in the dark: A winter journal - Horatio Clare (Elliott & Thompson)
• Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war - Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)