Merch oedd ar goll wedi'i chanfod yn ddiogel
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod wedi canfod merch 11 oed fu ar goll ers bore Iau yn ddiogel.
Roedden nhw wedi apelio am wybodaeth am Amelia Young yn gynharach.
Roedd hi wedi gadael am Ysgol y Moelwyn, ond roedd pryder am na wnaeth gyrraedd yno.
Roedd yr heddlu wedi apelio ar y cyfryngau cymdeithasol, ond ychydig wedi 19:30 fe wnaethon nhw gyhoeddi ei bod hi wedi ei chanfod.