Cynllun £400,000 i ddatblygu Neuadd Ogwen ym Methesda
- Cyhoeddwyd

Cafodd Neuadd Ogwen ei hadnewyddu pum mlynedd yn ôl
Mae rheolwyr Neuadd Ogwen ym Methesda wedi datgelu cynlluniau gwerth £400,000 i ddatblygu'r safle.
Cwmni Cymunedol Tabernacl sy'n berchen ar y neuadd a'r dafarn drws nesaf, ac maen nhw bellach yn gobeithio ehangu drwy adnewyddu adeiladau eraill sy'n sownd i'r ddau.
Y bwriad yw defnyddio'r adeiladau newydd hyn ar gyfer cynnal arddangosfeydd celf, cynadleddau a phwyllgorau ac ymarferion bandiau ymysg gweithgareddau eraill.
Dywedodd rheolwr y neuadd, Dilwyn Llwyd, bod y safle wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn ond bod "wastad lle i ddatblygu".
Ers cael ei hadnewyddu pum mlynedd yn ôl, mae Neuadd Ogwen bellach yn gyfrifol am gynnal pob math o weithgareddau, o nosweithiau ffilm i gyngherddau neu wersi offerynnol.
Daeth Tafarn y Fic, sydd drws nesaf i'r neuadd, i ddwylo Cwmni Tabernacl ym mis Ionawr 2018 ac mae bwriad nawr i ehangu ymhellach.

Rhai o'r adeiladau mae'r cwmni yn gobeithio eu hadnewyddu

Bydd modd cysylltu y rhain yn uniongyrchol gyda'r neuadd
Dywedodd Dic Ben, un o aelodau'r cwmni, bod sawl adeilad yng nghefn y dafarn y bydd modd eu cysylltu'n uniongyrchol gyda'r neuadd.
"Byddwn ni'n ailstrwythuro rhywfaint drwy wneud y ganolfan yn ehangach... Mae genyn ni gefnogaeth fawr iawn yn lleol, ac yn llawer ehangach na' hynny hefyd," meddai.
"Mae'r galw bendant yma. Mae hi'n bum mlynedd ers i ni adnewyddu ac mae o wedi bod yn broses hir, ond mae'n tyfu a thyfu yn fisol."
Gobaith y cwmni yw denu grantiau amrywiol i wireddu'r cynlluniau sydd werth tua £400,000, yn ôl Mr Llwyd.
Ychwanegodd eu bod yn gobeithio gwireddu'r cynlluniau hyn mor fuan â phosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017