Dyffryn Ogwen yn gwneud y gorau o doriadau

  • Cyhoeddwyd
canolfan ogwenFfynhonnell y llun, Partneriaeth Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan gymunedol Ogwen ydy canolbwynt gwaith y fenter

Wrth i awdurdodau lleol fynd ati i geisio arbed arian yn sgil toriadau i'w cyllidebau, mae 'na nifer yn trosglwyddo gwasanaethau cyhoeddus i ddwylo'r gymuned.

Mae Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd yn mynd ati i drosglwyddo asedau i fentrau ar hyd a lled y sir. Yn eu plith, mae Partneriaeth Ogwen yn ardal Bethesda.

Ers ei sefydlu, mae'r fenter gymunedol wedi perchnogi rhai o adeiladau'r stryd fawr ym Methesda, gan greu hýb cymunedol, symud Swyddfa'r Heddlu yn ôl i'r stryd fawr, ac agor siop i werthu cynnyrch lleol.

Mae nhw hefyd yn rhentu siopau a fflatiau i bobl leol am bris teg.

Erbyn hyn, mae Partneriaeth Ogwen wedi dechrau cynllun ynni hydro. Nod Ynni Ogwen ydy creu trydan o ddŵr Afon Ogwen, a defnyddio'r elw i ariannu prosiectau cymunedol ac amgylcheddol eraill yn y dyffryn.

'Pobl dda'

Diffyg capasiti i ddatblygu prosiectau ydy'r brif her i unrhyw gymuned, yn ôl Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies: "Beth sy' 'di digwydd yma yn Nyffryn Ogwen ydy bod y cynghorau cymuned wedi creu'r gofod yna, iddyn nhw allu cael pobl i fynd ati i ddatblygu prosiectau adfywio.

"Mae'r ewyllys yna, mewn unrhyw gymuned yng Nghymru, dw i'n meddwl. Mae gen ti bobl dda, sydd eisiau gwella'n cymunedau ni.

"Oherwydd llwyddiant Siop Ogwen, Ynni Ogwen yn arbennig, dw i'n meddwl ein bod ni'n cael ein gweld fel corff adfywio yn lleol, ac fel cerbyd naturiol i rywun fel y cyngor sir i ddod atom ni, pan mae 'na asedau ar gael i'w trosglwyddo."

Ffynhonnell y llun, Partneriaeth Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

"Pobl dda, sydd eisiau gwella'n cymunedau ni" sydd wrth galon gwaith y fenter, yn ôl y prif swyddog, Meleri Davies

2018

Â'r prosiectau sydd eisoes ar droed yn ffynnu, mae 'na fwy o ddatblygiadau ar y gweill yn 2018.

Perchnogi rhagor o adeiladau'r cyngor ydy un o'r rheiny, er mwyn cynnig mwy o wasanaethau cyhoeddus dan fantell y fenter.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Gwynedd bod gweithgaredd a bwrlwm cymunedol amlwg i'w weld yn ardal Dyffryn Ogwen, a'u bod nhw - ar ôl gweld llwyddiant trosglwyddo Neuadd Ogwen ar y stryd fawr i ddwylo'r gymuned - yn edrych 'mlaen at wireddu cynlluniau i roi'r llyfrgell yn nwylo'r trigolion yn y dyfodol agos.