Carcharu dyn busnes am dwyll ariannol gwerth £4.7m

  • Cyhoeddwyd
Anthony SmithFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd llys bod Anthony Smith wedi dweud "celwydd yn gyson"

Mae dyn busnes o Bort Talbot wedi pledio'n euog i gyflawni'r twyll ariannol mwyaf mae Llywodraeth Cymru erioed wedi ei ddioddef.

Fe gyfaddefodd Anthony Smith, 72, ei fod wedi hawlio £4.7m mewn grantiau gan y llywodraeth a'r Undeb Ewropeaidd rhwng 2005 a 2011.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Smith wedi dweud "celwydd yn gyson" er mwyn cynnal ei fusnes bwyd pysgod yn defnyddio arian cyhoeddus.

Cafodd Smith ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar.

'Twyll soffistigedig a chymhleth'

Roedd Smith yn gyfrifol am sawl busnes oedd yn arbenigo mewn bwyd pysgod cynaliadwy, oedd â phwyslais ar gyflenwi ffermydd pysgod.

Clywodd y llys bod y busnesau wedi apelio at y llywodraeth oherwydd y buddion amgylcheddol posib a'r swyddi byddai'n cael eu creu o ganlyniad.

Dywedodd yr erlyniad mai Smith oedd yn gyfrifol am drefnu'r "twyll soffistigedig a chymhleth", a oedd yn cynnwys dweud celwydd am wariant ei gwmni a faint o gyllid oedd ei angen i gyflawni prosiectau.

Clywodd y llys hefyd ei fod wedi "addo mwy nac oedd modd ei gynnig", gydag ond tua 10 o swyddi'n cael eu creu, er iddo addo creu cannoedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keith Peters ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar

Cafodd dau o gyn-weithwyr Smith eu dedfrydu hefyd ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau gwahanol.

Fe dderbyniodd Colin Mair, 68, ddedfryd o 21 mis yn y carchar wedi ei ohirio am 18 mis, ar ôl pledio'n euog i fasnachu twyllodrus.

Yn ogystal, bydd rhaid i Mair dalu £15,000 mewn costau.

Cafodd Keith Peters, 72, oedd yn gyn-gyfrifydd i Smith, ei ddedfrydu i 15 mis dan glo ar ôl pledio'n euog i ddau achos o gyfrifo camarweiniol.