Creulondeb anifeiliaid: Dim ond 8% yn mynd i'r carchar

  • Cyhoeddwyd
A sad looking dog peering through a fenceFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae llai na un ym mhob 10 person yng Nghymru yn mynd i'r carchar am droseddau'n ymwneud â chreulondeb anifeiliaid, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.

Yr uchafswm dedfryd o garchar am greulondeb anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr - chwe mis - ydy'r isaf yn Ewrop.

Ond mae'r BBC wedi canfod mai dim ond dwy ddedfryd o chwe mis a roddwyd gan lysoedd Cymru yn y degawd diwethaf.

Mae ynadon "yn trin pob achos unigol yn ôl ei deilyngdod", yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Ynadon.

Dim ond 102 o'r 1,268 (8%) o euogfarnau am droseddau creulondeb anifeiliaid mewn llysoedd yng Nghymru a arweiniodd at ddedfryd o garchar rhwng 2007 a 2017, yn ôl dadansoddiad o ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y dedfrydau o garchar a roddwyd gan lysoedd yng Nghymru - o 17 yn 2011, i ddim ond chwech yn 2017 - er bod achosion creulondeb anifeiliaid ar eu huchaf ers pum mlynedd.

'Hanfodol bod dedfrydu cryfach ar gael'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, mae'r RSPCA wedi galw am ddedfrydu llymach.

Dywedodd Michael Flower, dirprwy bennaeth erlyniadau'r RSPCA: "Er bod dedfrydau o garchar yn gymharol brin ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid, mae'n hanfodol bod dedfrydau cryfach ar gael i ynadon i anfon datganiad clir i'r rhai sy'n ystyried niweidio anifeiliaid na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef."

Roedd mwyafrif y dedfrydau o garchar (44%) yn un mis neu lai o hyd.

Roedd bron i draean yn fwy na thri mis ond yn llai na'r uchafswm o chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llywodraeth y DU - sydd wedi ymrwymo o'r blaen i gynyddu'r ddedfryd fwyaf o chwe mis i bum mlynedd - y bydd yn gwneud hynny "cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu" er mwyn gwneud y DU yn "arweinydd byd ym maes gofal ac amddiffyn anifeiliaid".

Mae'r BBC wedi canfod mai dim ond dwy ddedfryd o chwe mis o garchar a roddwyd gan lysoedd yng Nghymru rhwng 2007 a 2017, gan godi'r cwestiwn a fyddai dedfrydu llymach yn gwneud gwahaniaeth.

Mae'r corff sy'n cynrychioli ynadon yn y DU yn honni y byddai.

Mater datganoledig?

"Mae ynadon bob amser yn trin pob achos unigol yn ôl ei deilyngdod a'i ddedfryd yn unol â'r gyfraith a chanllawiau dedfrydu priodol," meddai John Bache, cadeirydd Cymdeithas yr Ynadon.

"Mae uchafswm ar gyfer dedfryd yn cael ei osod gan y senedd, nid y farnwriaeth - ond os cawn nhw eu cynyddu, bydd hyn yn newid yr ystod o ddedfrydau sydd ar gael ac felly'n effeithio ar ganllawiau ac ymarfer dedfrydu."

Mae lles anifeiliaid yn fater datganoledig, ond nid yw cyfiawnder - sy'n golygu bod rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch a oes gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i gyflwyno dedfrydu llymach.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi llywodraeth y DU i ddeddfu i gynyddu'r ddedfryd fwyaf i bum mlynedd yng Nghymru a Lloegr.

"Rydym wedi penderfynu bod cynnal cyfundrefn ddedfrydu debyg yn bwysig er mwyn sicrhau eglurder i asiantaethau gorfodi, y llysoedd a'r cyhoedd fel ei gilydd," ychwanegodd llefarydd.