Atal anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol?

  • Cyhoeddwyd
tent circus

Bydd cyfle gan y cyhoedd i roi eu barn ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Ym mis Mai 2015 galwodd y Gymdeithas Er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA Cymru) ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwaharddiad.

Roedd yr elusen yn codi pryderon am y llety y mae anifeiliaid yn ei gael dros dro, am hyfforddiant gorfodol ac am natur perfformiad yr anifeiliaid yn y syrcas.

Yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Leslie Griffiths, fydd yn lansio'r ymgyrch, a dywedodd y byddai gwaharddiad yn "anfon neges glir i bobl Cymru".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Dylai anifeiliad gwyllt ddim bod yn wrthrychau creu diddanwch,' medd ymgyrchwyr

Dangosodd ymgynghoriad cynharach a oedd yn ymwneud â'r posibilrwydd o drwyddedu Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid fod yna gefnogaeth gref i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcas deithiol.

Mae syrcasau teithiol wedi cael eu cynnal ym Mhrydain am dros 200 mlynedd ond fe fydd y mesur newydd, sef Mesur Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol, yn gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt.

Urddas a pharch

Dywedodd Mr Griffiths: "Rydym yn credu y dylai anifeiliaid gwyllt gael eu trin gydag urddas a pharch ac na ddylent fod yn wrthrychau creu diddanwch.

"Bydd gwaharddiad yn anfon neges glir i bobl Cymru ac ry'n am i blant a phobl ifanc y dyfodol ddatblygu agwedd iach a chyfrifol tuag at anifeiliaid," meddai.

Ychwanegodd: "Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i roi eu barn a bod yn rhan o'r ymgynghoriad.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 26 Tachwedd ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.