Saethu bwa croes: Teyrngedau i ddyn 74 oed

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Gerald Corrigan wedi'r ymosodiad eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd"

Mae 'na deyrngedau i ddyn 74 oed o Ynys Môn fu farw yn ysbyty Stoke ddydd Sadwrn ar ôl cael ei daro gan fwa croes ger Caergybi fis diwethaf.

Roedd Gerald Corrigan wedi bod yn ddifrifol wael ers cael ei saethu wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar 19 Ebrill.

Ddydd Sadwrn fe gadarnhaodd heddlu'r gogledd fod Gerald Corrigan wedi marw "o ganlyniad i anafiadau erchyll ar ôl cael ei saethu gan fwa croes y tu allan i'w gartref".

Mae'r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.

Roedd Mr Corrigan wedi bod yn byw ar Ynys Môn ers 20 mlynedd ar ôl ymddeol fel darlithydd ffotograffiaeth a fideo.

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen yn dweud bod ei feddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.

Ychwanegodd y cynghorydd lleol Trefor Lloyd Hughes bod y gymuned gyfan mewn sioc.

Dywedodd y ditectif sydd yn arwain yr ymchwiliad, Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney: "Mae hyn yn achos dychrynllyd ac rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mr Corrigan yn ystod y cyfnod trist yma.

"Mae ei deulu yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."