Pedwar ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2019

  • Cyhoeddwyd
Dysgwyr y Flwyddyn 2019Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fiona Collins, Gemma Owen, Grace Emily Jones a Paul Huckstep ydy'r pedwar sy'n ceisio am deitl Dysgwr y Flwyddyn 2019

Mae enwau'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2019 wedi cael eu cyhoeddi.

Y rhai sydd wedi dod i'r brig eleni yw Fiona Collins o Garrog, Sir Ddinbych, Paul Huckstep o Benmachno, Grace Emily Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr, a Gemma Owen o Faenan, Llanrwst.

Cafodd rownd gynderfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ei chynnal yn Oriel Mostyn, Llandudno ddydd Sadwrn.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher 7 Awst.

Yn ôl Trefor Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, "Roedd yn hynod braf croesawu criw arbennig o ddysgwyr i Landudno dros y penwythnos ar gyfer y rownd gynderfynol, gyda'r safon yn arbennig o uchel eleni.

"Rydym yn ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r gystadleuaeth, ac edmygu'u gwaith caled a'u dyfalbarhad wrth ddysgu'r Gymraeg.

"Mae'r gystadleuaeth hon mor eithriadol o bwysig os ydym ni am gyrraedd 1miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac ar sail y safon eleni, mae'n amlwg bod y sector dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth yma yng Nghymru, gyda chanlyniadau gwych i'w gweld mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad."

Y beirniaid eleni yw Daloni Metcalfe, Janet Charlton ac Emyr Davies.

Ychwanegodd y beirniaid, "Rydym ni wedi cael modd i fyw yn sgwrsio a chyfarfod pawb yn y gystadleuaeth.

"Mae nifer o'r ymgeiswyr wedi ein hysbrydoli ni, a'r rhesymau dros fynd ati i ddysgu'r iaith yn amrywiol ac yn bersonol iawn mewn rhai achosion."