Teyrnged i 'fam arbennig' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged i "fam arbennig".
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd yr Harbwr am tua 16:15 brynhawn Sul.
Roedd Jacqueline Coyne Poole, 44 oed, yn teithio ar gefn beic modur pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth Ambiwlans Awyr ymateb i'r digwyddiad ond bu farw Ms Poole o'i hanafiadau.
Mae'r teulu wedi ei disgrifio fel "mam, partner a merch arbennig" oedd â natur "caredig, cynnes a chlên".
Mae Heddlu'r De wedi apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.