Cyngor Sir Conwy am roi £49m ar gyfer ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i aelodau cabinet Cyngor Sir Conwy gymeradwyo'r buddsoddiad ddydd Mawrth
Bydd ysgolion yn sir Conwy yn derbyn £49m dros y bum mlynedd nesaf fel rhan o gynllun i foderneiddio ysgolion yr ardal.
Mae'r buddsoddiad - fel rhan o Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif - ar gyfer gwella cyfleusterau ac adnoddau yn bennaf.
Mae disgwyl i aelodau cabinet gymeradwyo'r buddsoddiad brynhawn Mawrth.
Daw ar ôl i'r cyngor sir gadarnhau y byddai'n gwneud toriadau i'w holl wasanaethau yn gynharach eleni, mewn ymgais i fynd i'r afael â diffyg ariannol o £15.7m.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y cynghorydd Garffild Lewis, fod y cyngor am wneud "popeth y gallwn i wella ein hysgolion".
"[R]wy'n edrych ymlaen i weld y prosiectau unigol yn dod yn eu blaen, o wella cyfleusterau presennol ac estyniadau i adeiladu ysgolion cyfan gwbl newydd," meddai.
Daw £43m gan Lywodraeth Cymru, gyda £6m ychwanegol yn dod drwy grantiau ar gyfer cynlluniau addysg amrywiol, gan gynnwys hybu cyfleusterau cyfrwng Cymraeg.

Cafodd protest ei gynnal tu allan i bencadlys newydd y cyngor ym Mae Colwyn fis Mawrth
Yn gynharach eleni, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Conwy y byddan nhw'n gwneud toriadau i'w holl wasanaethau, i geisio mynd i'r afael â diffyg ariannol o £15.7m.
Bydd y gyllideb addysg yn cael ei thorri 3.2% a bydd cynnydd o 9.6% i dreth y cyngor hefyd.
Ym mis Mawrth, bu tua 200 o bobl yn protestio tu allan i bencadlys newydd yr awdurdod lleol yn sgil y toriadau i'r sector addysg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2018