Ymchwil mwyaf erioed i salwch pan yn feichiog
- Cyhoeddwyd
Ymchwil mwyaf erioed i salwch boreol
Mae'r ymchwiliad gwyddonol mwyaf erioed wedi dechrau i gyflwr o'r enw Hyperemesis Gravidarum neu HG, cyflwr sy'n gallu peryglu bywyd merched yn ystod beichiogrwydd.
Mae merched sy'n byw gyda HG yn dioddef llawer mwy na'r salwch cychwynnol mae rhai yn cael yn y bore, gan olygu ymweld â'r ysbyty yn gyson.
Yn ôl ymchwil gan y BBC mae rhai menywod yn ystyried cael erthyliad neu hyd yn oed lladd eu hunain.
Aeth dros 1,200 o gleifion i'r ysbyty'r llynedd gyda salwch difrifol yn ystod eu beichiogrwydd.
Yn eu plith oedd Catrin Rachel, o athrawes o Abertawe fu'n rhaid rhoi'r gorau i'w swydd yn gynnar oherwydd ei chyflwr.
Roedd ymchwil y BBC'n dangos fod hanner y menywod a fu'n rhan o'r ymchwil yn dweud eu bod wedi ystyried cael erthyliad am eu bod mor sal gyda HG.
Dywedodd tua thraean o'r menywod eu bod wedi hel meddyliau am ladd eu hunain yn ystod eu beichiogrwydd.
O'r rhai fu'n rhan o'r ymchwil dywedodd oddeutu tri chwarter y menywod eu bod wedi diodde' problemau corfforol a meddyliol hir dymor o ganlyniad i fod yn sal gyda HG, gan gynnwys iselder a Anhwylder Straen Ôl-Drawma (PTSD).