AC Brexit Party: Tommy Robinson yn 'gymeriad dewr'

  • Cyhoeddwyd
David Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Rowlands yn Aelod Cynulliad dros de ddwyrain Cymru

Mae un o Aelodau Cynulliad newydd y Brexit Party wedi cyfeirio at yr ymgyrchydd adain dde, Tommy Robinson fel "cymeriad dewr".

Dywedodd David Rowlands - sy'n AC dros dde ddwyrain Cymru - fod cyn-arweinydd yr English Defence League (EDL) yn "adlewyrchu barn nifer fawr o bobl".

Mae'r sylwadau'n mynd yn groes i rai arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, sydd wedi galw Mr Robinson yn "thug".

Mewn ymateb, dywedodd y Brexit Party fod Mr Rowlands yn rhoi barn bersonol, ac nad oedd yn adlewyrchu safbwynt y blaid "mewn unrhyw ffordd".

Fe adawodd Mr Rowlands UKIP ddydd Mercher i ymuno â'r Brexit Party, sy'n disgwyl caniatâd i ffurfio grŵp yn y Cynulliad.

Y llynedd, roedd UKIP yn wynebu beirniadaeth am eu cysylltiad gyda Mr Robinson - neu Stephen Yaxley-Lennon i roi iddo'i enw iawn.

Roedd y blaid wedi diarddel cyn-aelodau'r EDL rhag ymuno, ond fe wnaeth Gerard Batten - arweinydd UKIP - gyflogi Mr Robinson fel ei gynghorydd.

Fe arweiniodd y ddadl at ymddiswyddiad sawl ffigwr blaenllaw, gan gynnwys Mr Farage.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds wedi galw ar Mr Rowlands i ymddiheuro am ei sylwadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tommy Robinson yn gyn-arweinydd yr EDL

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe ddywedodd Mr Rowlands: "Rwy'n credu fod Tommy Robinson yn adlewyrchu barn nifer fawr o bobl. Mae'n gymeriad dewr.

"Dwi ddim yn cydymdeimlo â phopeth mae'n ei ddweud, wrth gwrs ddim.

"Ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffaith bod rhai adrannau o gymdeithas yn ymddwyn yn amhriodol iawn."

Dywedodd Ms Dodds y dylai Mr Rowlands ymddiheuro am ei sylwadau, gan ddweud: "Dydy gwerthoedd [Tommy Robinson] ddim yn cydfynd â'n gwerthoedd ni a dydyn nhw ddim yn cydfynd â gwerthoedd Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran y Brexit Party bod y blaid yn "ymbellhau ei hun" o werthoedd Mr Robinson.