Wyth plaid ag ymgeiswyr ar gyfer etholiad Senedd Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Adeilad y Senedd Ewropeaidd yn StrasbourgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad y Senedd Ewropeaidd yn Strasbourg

Mae wyth o bleidiau yn gobeithio sicrhau cefnogaeth pleidleiswyr Cymru yn yr etholiadau Ewropeaidd tebygol ym mis Mai.

Daeth y cyfnod enwebu swyddogol i ben am 16:00 ddydd Iau ar gyfer yr etholiadau a fydd yn cael eu cynnal oni bai bod Aelodau Seneddol yn cefnogi cytundeb Brexit erbyn 22 Mai - sefyllfa sy'n ymddangos yn annhebygol, fel y mae pethau'n sefyll.

Bydd yna ymgeiswyr ar ran y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru yn ogystal ag UKIP, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, Plaid Brexit a Change UK.

Pedwar ASE sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop o'r 73 o aelodau sydd gan y DU.

Mae seddau'n cael eu dyrannu i bleidiau ar sail eu cyfran o'r bleidlais, i ymgeiswyr ar restrau unigol y pleidiau eu hunain.

Bydd yr ymgeiswyr etholedig yn cymryd eu seddi ym mis Gorffennaf tan 31 Hydref, sef dyddiad presennol y DU ar gyfer gadael yr UE, oni bai bod yna ddatrysiad cyn hynny neu gytundeb pellach i ymestyn y dyddiad ymadael.

Mae disgwyl i'r cyfrif gael ei gynnal yn Hwlffordd ddydd Sul 26 Mai - tri diwrnod wedi'r bleidlais ar draws y DU, a hynny er mwyn aros nes bod yr etholiadau wedi eu cynnal ymhob un o'r 28 o wledydd sy'n perthyn i'r UE.

Disgrifiad o’r llun,

ASE presennol Cymru (o'r chwith i'r dde): Derek Vaughan, Jill Evans, Nathan Gill a Kay Swinburne

Rhaid cofrestru erbyn 7 Mai i fwrw pleidlais, dolen allanol.

Mae hefyd modd i drefnu pleidlais trwy ddirprwy neu bleidlais bost.

Yn yr etholiad diwethaf yn 2014, fe enillodd Llafur, UKIP, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru un sedd yr un - canlyniad oedd yn golygu dim newid o etholiad 2009, gyda'r un pedair plaid yn cael eu hail-ethol.

Llafur gafodd y bleidlais fwyaf yng Nghymru - 28.15% - gan sicrhau sedd Derek Vaughan.

Roedd UKIP - a gafodd y bleidlais fwyaf ar draws y DU - yn ail agos gyda 27.55%, gan olygu bod Nathan Gill yn mynd i'r Senedd i gymryd lle'r ASE blaenorol John Bufton.

17.43% oedd canran y bleidlais i'r Ceidwadwyr ac roedd Plaid Cymru yn bedwerydd gyda 15.26% - canlyniad wnaeth sicrhau tymor arall i Kay Swinburne a Jill Evans.

Mae Ms Swinburne a Mr Vaughan wedi penderfynu peidio ailsefyll y tro hwn.

Rhestrau ymgeiswyr y pleidiau

Llafur / Llafur Cymru: Jacqueline Margarete Jones, Matthew James Dorrance, Mary Felicity Wimbury, Mark Jeffrey Denley Whitcutt;

Ceidwadwyr Cymreig: Daniel Stephen Boucher, Craig James Robert Lawton, Fay Alicia Jones, Tomos Dafydd Davies;

Plaid Cymru: Jill Evans, Carmen Ria Smith, Patrick Robert Anthony, Ioan Rhys Bellin;

UKIP: Kristian Philip Hicks, Keith Callum Edwards, Thomas George Harrison, Robert Michael;

Y Democratiaid Rhyddfrydol: Sam Bennett, Donna Louise Lalek, Alistair Ronald Cameron, Andrew John Parkhurst;

Plaid Werdd: Anthony David Slaughter, Ian Roy Chandler, Ceri John Davies, Duncan Rees;

Plaid Brexit Party: Nathan Lee Gill, James Freeman Wells, Gethin James, Julie Anne Price;

Change UK - The Independent Group: Jonathan Owen Jones, June Caris Davies, Matthew Graham Paul, Sally Anne Stephenson.