Cylchgrawn Golwg yn amddiffyn sylwadau colofnydd

  • Cyhoeddwyd
Huw Onllwyn
Disgrifiad o’r llun,

'Un Bore Mercher: anniddorol' oedd pennawd colofn Huw Onllwyn yn Golwg yr wythnos yma

Mae un o adolygwyr cylchgrawn Golwg wedi cael ei feirniadu wedi iddo gyfeirio at goesau "hyfryd" yr actores, Eve Myles.

Mewn adolygiad o'r bennod ddiweddaraf o Un Bore Mercher, mae Huw Onllwyn yn trafod delwedd Ms Myles, cyn trafod cynnwys y rhaglen, a chloi gan gyfeirio at ei choesau mewn sodlau.

"Nid oes unrhyw amheuaeth fod gan Eve Myles goesau hyfryd - sy'n edrych yn well fyth mewn pâr o high-heels," meddai Mr Onllwyn ar ddechrau ei golofn.

"Ac mae hynny'n gwneud Un Bore Mercher yn werth ei wylio."

Dywedodd gŵr Ms Myles, Bradley Freegard - sydd hefyd yn ymddangos yn Un Bore Mercher - fod sylwadau Mr Onllwyn yn "arswydus" ac yn "rhagfarnllyd."

'Ysgogi trafodaeth'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Mr Onllwyn ei fod wedi defnyddio dull "eironig a dychanol" i gwestiynu "pam fod cynhyrchwyr y rhaglen wedi penderfynu fod angen gwisgo Eve Myles... mewn high-heels a sgert fer".

Dywedodd Golwg mai nod y golofn oedd "ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu dangos ar deledu".

Eve Myles
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Huw Onllwyn y sylwadau wrth drafod yr actores Eve Myles sy'n actio yn y ddrama Un Bore Mercher

Mewn datganiad dywedodd Huw Onllwyn: "Yn fy ngholofn roeddwn yn cwestiynu pam fod cynhyrchwyr y rhaglen wedi penderfynu fod angen gwisgo Eve Myles (sy'n chwarae rhan Faith Howells - mam i dri o blant a chyfreithwraig brysur) mewn high-heels a sgert fer.

"Fy marn yw y gwnaed hyn er mwyn defnyddio sex-appeal Ms Myles er lles ratings y rhaglen.

"Ond yn hytrach na chyflwyno'r pwynt mewn dull sych a diflas, fe ddefnyddiais ddull eironig a dychanol (arddull cyson y golofn) er mwyn tynnu sylw at y mater.

"Mae fy mhwynt yn un difrifol, fodd bynnag - sy'n tynnu sylw at sut y cyflwynir cymeriad Ms Myles ar Un Bore Mercher.

"Rwy'n flin na gyflwynwyd yr elfen hon o ddychan yn ddigon clir."

Beth ydy ymateb Golwg?

Mewn datganiad, fe ddywedodd Golwg mai nod y golofn oedd "ysgogi trafodaeth am y ffordd y mae menywod yn cael eu dangos ar deledu".

"Mae Huw Onllwyn wedi egluro'i safbwynt: ei fod yn tynnu sylw at y ffordd y mae cymeriad Eve Myles yn cael ei ddangos ar y rhaglen, gyda phwyslais ar y sodlau uchel a'i hedrychiad," meddai.

"Roedd yn ceisio codi'r pwynt mewn ffordd ddychanol ond mae'n amlwg nad oedd hi'n glir i bawb mai dyna'r nod... un o beryglon, a chryfderau, dychan.

"Mae Golwg ar hyd y blynyddoedd wedi cymryd safbwynt flaengar at faterion rhyw a rhywedd ac mae hynny'n parhau.

"Petai'r sylwadau yn y golofn yn rhai arwynebol, difeddwl, mi fyddai'r feirniadaeth arnyn nhw'n gymwys, ond anesmwytho oedd y nod, er mwyn codi cwestiwn.

"Ar eu pennau eu hunain, mae tri pharagraff cynta'r golofn yn dramgwyddus ond, o ddarllen y golofn gyfan, mae'n amlwg beth ydi pwynt Huw Onllwyn, sef fod y brif actores yn cael ei dangos mewn ffordd benodol er mwyn ceisio denu a chadw cynulleidfa.

"Os oedd sylwadau Ar y Soffa yn cythruddo am y rhesymau anghywir ac os oedd tôn y golofn yn creu camargraff, mae'n ddrwg gyda ni am hynny... ond gobeithio y bydd pawb, gan gynnwys cynhyrchwyr teledu, yn ystyried y pwynt y tu cefn iddyn nhw."