Dod i adnabod y seiclwr Olympaidd Owain Doull

  • Cyhoeddwyd
Owain DoullFfynhonnell y llun, Ineos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Doull yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Glantaf, Caerdydd

Y seiclwr Olympaidd, Owain Doull yw Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro ddydd Mercher.

Dywedodd y gŵr 26 oed o Gaerdydd ei fod yn falch o weld yr Urdd yn "datblygu eu hadran chwaraeon".

Roedd Owain yn aelod o dîm ymlid Prydain Fawr a llwyddodd i ennill y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Rio ym Mrasil yn 2016, gan dorri record byd.

Ymunodd Owain â thîm Sky o dîm Wiggins ar gyfer tymor 2017. Mae Sky bellach yn seiclo o dan yr enw Ineos.

'Helpu fi i garu'r iaith'

Doedd Owain methu a bod yn yr Eisteddfod ddydd Mercher oherwydd ymrwymiadau eraill, ond fe gafodd neges fideo ganddo ei dangos ddydd Mercher.

Disgrifiad,

Neges gan Lywydd y Dydd, Owain Doull

Er nad oedd yn un am gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod, esboniodd bod yr Urdd wedi chwarae rôl bwysig iawn yn ei blentyndod.

"Tra yn yr ysgol, oedd yr Urdd yn allweddol o ddydd i ddydd, o chwaraeon i berfformio a celf a chrefft.

"Ond i fi yn bersonol, oedd yr Urdd wedi chwarae'r rôl fwyaf yn fy helpu i garu'r iaith Gymraeg.

"Dwi dal i gofio'r geiriau ar gyfer cân 'Hei Mistar Urdd' hyd yn oed!"

Dywedodd nad oedd cymaint o bwyslais ar chwaraeon, ond ei fod yn falch o weld yr elfen yna'n tyfu o fewn y mudiad.

"Mae'n bwysig cofio mai nid pawb sy'n dda am ganu, dawnsio ac actio, ond mae pawb yn dda am rywbeth," meddai.

"Felly mae'n braf gweld yr Urdd yn datblygu eu hadran chwaraeon o fewn Cymru."

Dyw Owain ddim yn byw yng Nghymru rhagor, ond dywedodd ei fod wastad "yn cymryd y cyfle" i siarad Cymraeg pan fydd gyda'i ffrindiau.