Galw am greu siediau i'r ifanc i'w cadw rhag gangiau
- Cyhoeddwyd
Dylid ystyried sefydlu "Youth Shed" ymhob tref yng Nghymru i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn gangiau cyffuriau, yn ôl trefnwyr prosiect arloesol yn Ninbych.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref yn ardal Dinbych i drawsnewid hen garej yn y dref i fod yn ganolfan i'r "Shedderz".
Maen nhw wedyn yn gallu defnyddio'r adeilad i wneud gweithgareddau fel trwsio beiciau, argraffu crysau-t, adfer hen ddodrefn a chymdeithasu.
Y bobl ifanc eu hunain sydd yng ngofal yr adeilad, ond yn cael eu mentora gan Scott Jenkinson.
Ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau ei hun am flynyddoedd, mae o'r farn bod mannau fel "Youth Shedz" yn hanfodol wrth gadw pobl ifanc oddi wrth gangiau cyffuriau gogledd orllewin Lloegr.
"Doedd gen i ddim pwrpas mewn bywyd. Do' ni sicr ddim yn rhan o gymdeithas," meddai.
"Mae gan Lerpwl a Manceinion ddylanwad aruthrol yn yr ardal hon, yn enwedig o ran y gangiau cyffuriau.
"Mae'n rhaid inni sicrhau fod pobl ifanc yn troi atom ni yn hytrach na'r gangiau yma."
Pobl ifanc, yn cael eu cefnogi gan Gorwel, adain o gymdeithas dai grŵp Cynefin, oedd y cyntaf i sefydlu "Youth Shed".
'Doedd gen i ddim gobaith'
Mae 'na siediau ar y gweill mewn trefi eraill yn y gogledd ddwyrain, a'r gobaith ydy ehangu ymhellach.
Un o'r "Shedderz" gwreiddiol ydy Kiera-Leigh George, 21: "Doedd gen i ddim gobaith.
"Roedd cyffuriau yn rhan fawr o fy mywyd. O'n i'n credu y byddwn ni yn y carchar erbyn hyn.
"Ond dwi wedi troi pethau rownd. Mae'n broses ddwy ffordd. Mae'n bwysig rhoi rhywbeth 'nôl."
Bellach mae'r prosiect wedi ei enwi fel prosiect digartrefedd y flwyddyn mewn seremoni wobrwyo Brydeinig, a'r gobaith ydy gallu ehangu i drefi eraill dros y wlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018