'Angen gostwng cyflymder ar yr A487 ar frys'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwad ar i Lywodraeth Cymru fwrw 'mlaen ar frys i gyflwyno cyfyngiad cyflymder o 40mya ar ffordd yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog yng Ngwynedd.
Y llynedd bu farw dynes a babi mewn gwrthdrawiad yno ac mae nifer o ddigwyddiadau eraill wedi bod ers hynny.
Bu gwrthdrawiad arall ar y ffordd fore Gwener, a bellach mae cynghorydd lleol yn galw ar y llywodraeth i weithredu ar frys.
Ar hyn o bryd mae cyfyngiad gyrru yn 60mya ar ddarn o'r ffordd sy'n cael ei hadnabod fel Oakley Drive, ac sydd yn droellog iawn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynnig i gyfyngu cyflymder rhan uchaf Oakley Drive i 40mya dan ymgynghoriad.
Dywedodd y Cynghorydd Elfed Roberts: "Y llynedd ddaru ni golli dau fywyd yma, oedd yn drychineb ofnadwy.
"Cafodd teulu lleol a'r ardal eu dychryn, ac ers hynny 'da ni wedi bod yn rhoi pwysau ar y Cynulliad i drio eu cael nhw i wneud rhywbeth.
"Mae 'na ddamweiniau o hyd yma, a dwi wedi dod ar draws tair damwain yma - diolch i'r drefn does 'na neb wedi eu hanafu yn rheiny."
Yn ôl Mr Roberts, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, mae'r ffordd yn hynod o beryglus, ac mae pobl yn teithio o dan amodau anodd yno.
"Mae'r Cynulliad yn gweithio ar y peth i ni, ond plîs gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae angen rhywbeth yn syth neu mi fyddan ni'n colli bywyd eto."
Yn ôl Mr Roberts mae wyneb y ffordd, sydd wedi'i drin gyda deunydd i atal llithro, wedi gwisgo ac mae sawl rhych wedi ymddangos.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cynnig i gyfyngu cyflymder rhan uchaf Oakley Drive i 40mya dan ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac y byddan nhw'n cwrdd â chynrychiolwyr y gymuned leol i drafod y cynnig.
Unwaith y bydd y broses wedi ei chwblhau, dywedodd y llywodraeth mai'r nod ydy cael y cyfyngiad cyflymder newydd yn ei le erbyn dechrau'r hydref eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018