Babi wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad A487 yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Safle'r ddamwain yng NgellilydanFfynhonnell y llun, Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffordd yr A487 yng Ngellilydan wedi cau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad fore Iau

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod babi chwe mis oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A487 ger Gellilydan yng Ngwynedd ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta a lori am tua 11:20.

Bu farw dynes oedd yn teithio yn y car yn y fan a'r lle, ac fe gafodd y babi - merch fach - a dynes arall eu cludo i'r ysbyty.

Cadarnhaodd yr heddlu y bu farw'r babi yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl nos Iau.

Mae'r ddynes arall, oedd yn gyrru'r car, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn ysbyty Stoke.

Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydyn ni'n parhau i apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un all gynorthwyo ein hymchwiliad i gysylltu gyda ni."