Jade Jones yn bencampwr taekwondo'r byd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Jade Jones
Disgrifiad o’r llun,

Jade Jones yn dathlu ennill pencampwriaeth y byd am y tro cyntaf

Mae Jade Jones wedi ennill Pencampwriaeth Taekwondo'r Byd am y tro cyntaf.

Ar ôl ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd ddwywaith, mae Jones wedi cyrraedd ei huchelgais o ennill Pencampwriaeth y Byd hefyd.

Ennillodd Jones fedal arian yn 2011 ac fe gyrhaeddodd y rownd gynderfynol ddwy flynedd yn ôl.

Fe gurodd Jones y bencampwraig byd cyfredol Lee Ah-reum 14-7.

Ar ôl y fuddugoliaeth ym Manceinion dywedodd Jones: "Dyw hyn ddim yn teimlo'n real, mae'n anhygoel."

"Mae'n swnio yn wych bod yn bencampwr byd."

Cyn y gystadleuaeth dywedodd ei bod yn bwriadu gwneud pob dim posib i ennill Pencampwriaeth y Byd cyn iddi ymddeol.

Mae ganddi un uchelgais mawr ar ôl - ennill trydedd fedal Olympaidd.

"Does neb arall wedi ennill tair medal aur o'r blaen - felly dyna'r targed" meddai.

Mae Jones eisoes wedi ennill Pencampwriaethau Ewrop, y Gemau Olympaidd, a'r Grand Prix taekwondo.