Morgannwg yn gorffen yr ail ddiwrnod 214 am 4
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi gorffen ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Sir Derby 214 am 4 wedi bowlio gwych gan Lukas Carey.
Sicrhaodd Carey y sgôr fowlio orau yn y bencampwriaeth (ail adran).
Roedd y tîm cartref i gyd allan am 378 rhediad ar ôl cloi ddydd Sul ar 235 am 5.
Cafodd Morgannwg ddiwrnod lled lwyddiannus ar y llain batio wedyn gan gyrraedd 214 am 4 wiced gyda Charlie Hemphrey yn sgorio 75 cyn mynd allan coes o flaen wiced i fowlio van Beek.
Roedd Root ar 53 heb fod allan ar ddiwedd y chwarae.
Roedd hi'n rhyfeddol fod Root yn batio mor hyderus ac yntau wedi clywed ddydd Llun ei fod wedi ei wahardd rhag bowlio mewn gêm bencampwriaeth tra bod ymchwiliad i'w ddull bowlio yn cael ei gynnal.
Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â pha mor bell y mae'n troi ei benelin.
Ond roedd ei fatio yn ddigon sicr prynhawn Llun wrth i Forgannwg orffen y dydd 164 yn brin o sgôr Sir Derby ond gyda chwe wiced wrth gefn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019