Pedair milltir ac awr a hanner i gerdded i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae 20-24 Mai yn wythnos cerdded i'r ysgol a rhai ysgolion yn manteisio ar y cyfle i annog cyfleoedd i blant ddod i'r ysgol ar droed neu ar feic yn hytrach na mewn car.
Ond faint o blant sydd â thaith gerdded mor braf â'r tri yma a ddeffrodd yn gynt nag arfer ar Fai 21 i gerdded pedair milltir o'u cartref yng Nghwm Cynllwyd, Gwynedd, i lawr i'r ysgol yn y pentref.

Roedd Lliwen, Eleias a Daniel yn pasio heibio godrau'r Aran Benllyn ar eu taith i'r ysgol yn Llanuwchllyn
Fe gymerodd y daith tua awr a hanner i Lliwen, Eleias a Daniel - ond roedd y golygfeydd yn fendigedig.
Cafodd Daniel, sy'n bump, ganmoliaeth arbennig gan ei athrawon am wneud y daith!
"Fel arfer mae'r tri yn dal tacsi am 8:30 yn y bore i'r ysgol, ond gan bod hi'n wythnos cerdded i'r ysgol, mi benderfynon eto eleni cerdded y pedair milltir i'r ysgol o Gynllwyd i Lanuwchllyn," meddai eu mam, Cari Sioux.
"Dyma'r tro cyntaf i Daniel ei gwneud hi.
"Cychwyn am 7:30 a'r haul allan, gyda golygfeydd ffantastic!
"Roedd y plant yn sylwi ar natur o'u cwmpas mwy, y blodau gwyllt, sŵn gwahanol, a chymryd yr amser i gymryd pethe i fewn a chwarae ryw gemau fel 'Dwi'n gweld efo'n llygad bach i' - a chael plyciau o redeg!
"Roedden nhw yn teimlo'n ffit, yn iach ac yn falch o wneud y daith .... ac awydd gneud eto yn fuan!"

Cychwyn am 7.30...

Cyfle olaf i ffonio am dacsi?

Heibio mynydd Yr Aran

Hanner ffordd - dweud helo wrth y ceffyl

Y plant - a mam - yn teimlo'n iach ac yn ffit
Hefyd o ddiddordeb: