Cwmni ffonau symudol i gyflwyno technoleg 5G i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd rhwydwaith 5G ar gael i ddefnyddwyr ffonau symudol yng Nghaerdydd erbyn diwedd y mis.
Mae BT, sy'n berchen ar gwmni EE, wedi cadarnhau bydd y genhedlaeth nesaf o signal ffonau ar gael i'w cwsmeriaid yn y brif ddinas ar 30 Mai.
Bydd y dechnoleg newydd yn cynnig cysylltiad cyflymach â'r rhyngrwyd i ddefnyddwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran EE bod cyflwyno'r rhwydwaith yn "helpu i gadw'r DU ar flaen y gad ym maes technoleg ddigidol".
Mae Caerdydd yn un o'r chwe dinas fydd yn cyflwyno'r dechnoleg wythnos nesaf.
Bydd modd defnyddio 5G yn Llundain, Belfast, Edinburgh, Birmingham a Manceinion hefyd.
Yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, mae "denu busnesau i'r brif ddinas yn flaenoriaeth" ac mae gallu cynnig y rhwydwaith newydd yn "arwydd addawol iawn".
"Mae technoleg 5G yn cefnogi ein strategaeth ddigidol a'n huchelgais i foderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.
"Rydyn ni'n deall y bydd gofynion data yn cynyddu ac mae'r ffaith bod 5G wedi cyrraedd Caerdydd yn sicrhau ein bod ni'n parhau fel un o'r dinasoedd mwyaf cystadleuol yn y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019