Cam ymlaen i gynllun hen lys wedi apêl ariannu torfol

  • Cyhoeddwyd
Hen Lys Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Fe godwyd yr adeilad yn 1401 ac mae mewn safle allweddol ar sgwâr y dref farchnad hanesyddol

Mae Cyngor Tref Rhuthun yn dweud bod digon o arian wedi ei godi er mwyn symud ymlaen at gamau nesaf cynllun i drawsnewid un o adeiladau hanesyddol amlycaf y dref.

Roedd yna apêl gyhoeddus i godi £8,000 cychwynnol at addasu'r Hen Lys ar Sgwâr San Pedr ond erbyn y dyddiad cau roedd swm o £11,800 wedi ei gyfrannu.

Mae'n golygu bod modd trefnu proses dendro ar gyfer y gwaith adeiladu angenrheidiol i droi safle hen fanc NatWest yn ganolfan gymunedol aml-bwrpas.

Dywedodd dirprwy faer Rhuthun, Gavin Harris bod yr ymateb i'r apêl ariannu torfol, gan gynnwys nifer o gyfraniadau gan unigolion o Los Angeles, wedi ei ryfeddu.

"Mae o'n golygu lot bod pobol ddim yn unig yn cefnogi, ond yn fodlon mynd i'w pocedi," meddai.

"Roedd yna gyfraniada' mawr a bach - ma' 'na gwmnïa' sy' wedi rhoi £1,000 a ma' 'na rai bychan gan bobol sy' heb llawer o arian i'w roi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i'r cyhoedd gael gweld y gwaith atgyweirio i'r adeilad dros benwythnos cyntaf mis Medi, yn ôl Gavin Harris

Mae'r cyngor a'r grŵp gweithredol sy'n gofalu am y prosiect yn gobeithio codi rhagor o arian at gostau cynnwys yr adeilad rhestredig Gradd II ar ei newydd wedd, ac yn ceisio am ragor o grantiau.

Maen nhw'n bwriadu estyn gwahoddiad i'r cyhoedd weld canlyniad y gwaith atgyweirio dros benwythnos Drysau Agored ddechrau Medi - rhaglen flynyddol o weithgareddau ar draws Ewrop sy'n dathlu pensaernïaeth a threftadaeth.

"Bydd hwnna'n gyfle i'r cyhoedd ga'l sneak peak," meddai Mr Harris, gan ychwanegu eu bod yn gobeithio gallu agor y ganolfan erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser byddan nhw'n mynd ati i greu arddangosfa gyda chymorth ysgolion a grwpiau lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau i addasu'r adeilad o'r cyfnod pan roedd yn eiddo i fanc NatWest

Yn ôl rhai, y llys yw'r adeilad cyhoeddus hynaf yng Nghymru, gyda’r prif ran wedi ei adeiladu yn union wedi gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Mae'r eiddo yn wag ers penderfyniad banc NatWest i gau ei gangen yn y dref.

Fe brynodd Cyngor Tref Rhuthun yr adeilad am £120,000 ac mae yna amcangyfrif bod angen £100,000 o wahanol ffynonellau i wireddu holl elfennau'r prosiect.

Mae £40,000 eisoes wedi ei sicrhau mewn grantiau.

Bydd y cyngor tref hefyd yn defnyddio'r adeilad ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.