Tyfu'r Gymraeg ar-lein 'mor bwysig â chyfieithu'r Beibl'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi lansio ymgyrch gyda'r bwriad o sefydlu Menter Iaith Ddigidol.
Maen nhw'n dweud bod "datblygu'r iaith ar-lein yr un mor bwysig i'r Gymraeg ag oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg".
Daw'r alwad wrth i'r mudiad gyfeirio at y "bylchau enfawr yn y ddarpariaeth a'r cynnwys presennol ar-lein, megis fideos YouTube".
Mae'r mudiad yn galw am gorff newydd fyddai'n annog creu deunydd ar lawr gwlad ynghyd â chynnal ymchwil i'r angen a gwella ymwybyddiaeth o'r hyn sydd eisoes ar gael.
Dywedodd cadeirydd grŵp digidol y mudiad, Heledd Gwyndaf, ei bod yn "affwysol o amlwg bod diffygion difrifol o ran cynnwys Cymraeg ar YouTube ac ar-lein yn fwy cyffredinol".
"Gyda defnydd o blatfformau ar-lein yn uwch nag erioed o'r blaen, mae'r diffyg Cymraeg ar y platfformau hynny'n tanseilio defnydd yr iaith yn ein cymunedau," meddai.
Ychwanegodd bod y gymdeithas am weld corff sy'n galluogi a chynorthwyo "pobl ar lawr gwlad" i greu "cynnwys lleol Cymraeg".
Datblygu'r iaith yn 'hanfodol'
Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn casglu barn pobl am y Fenter Iaith Ddigidol newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.
Ychwanegodd Ms Gwyndaf: "Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn.
"Mae datblygu'r Gymraeg ar-lein yr un mor bwysig i'r iaith ag oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru - mae'n hanfodol.
"Rydym yn colli'r frwydr ar hyn o bryd ac mae'r ychydig o Gymraeg sydd i'w chael ar-lein yn cael ei foddi, ac ar goll."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018