Ymgyrch gan Heddlu Dyfed-Powys i geisio atal rêfs
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy o heddweision Dyfed-Powys ar ddyletswydd dros Ŵyl y Banc fel rhan o ymgyrch ehangach i atal rêfs anghyfreithlon.
Mae yna alw hefyd ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw grwpiau amheus sy'n ymgynnull.
Yn ogystal â'r heddlu, fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorau sir a'r parciau cenedlaethol yn cymryd rhan yn y cynllun.
Dywedodd yr heddlu fod Ymgyrch Flamenco wedi llwyddo i atal tair rêf rhag cael eu cynnal dros yr un cyfnod y llynedd.
Un broblem, yn ôl yr heddlu, yw bod newyddion fod rêfs anghyfreithlon ar fin cael eu cynnal yn ymledu'n gyflym, gan amlaf ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae cannoedd o bobl yn cael eu denu i fannau gwledig anghysbell.
Yn ôl Dai Rees, arweinydd tîm gyda Cymorth Naturiol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, mae olion un digwyddiad o'r fath ddwy flynedd yn ôl yn dal i'w gweld yn agos i gymuned Halfway, ger Llanymddyfri.
"Mae'r gwastraff yn amrywio o nwyddau silindr, gwastraff dynol a gwydr ac mae yna gryn gost i'w clirio wedyn," meddai.
"Mae'r coedwigoedd hyn yn agored i'r cyhoedd - ond ni fyddwn yn dod yma gyda'r plant rhag ofn iddyn nhw sefyll ar rywbeth neu weld rhywbeth.
"Fe wnaeth clirio'r safle yma yn unig gostio tua £6,500."
Dywedodd fod digwyddiadau o'r fath hefyd yn niweidiol i fywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Mae negeseuon ar y gwefannau cymdeithasol ynglŷn â'r digwyddiadau hyn yn aml mewn côd - ac felly'n anodd i'r awdurdodau wybod amdanynt.
Mae'r heddlu yn dweud y dylai'r cyhoedd fod yn amheus pe bai nhw'n gweld:
nifer fawr o geir;
nifer fawr o faniau camper neu dryciau;
pobl sy'n ceisio llogi tir.
Dylai unrhyw un sy'n amheus gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dywedodd y Sarjant Owen Dillon o Heddlu Dyfed-Powys fod yna gonsyrn hefyd am ddiogelwch y cyhoedd.
"Mae'r rêfs yn aml yn digwydd nos Sadwrn," meddai.
"Y diwrnod canlynol pan rydym yn ceisio symud pobl o'r lleoliad, maen nhw dal o dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol a byddan nhw'n ceisio mynd ar y ffyrdd.
"Mae 'na ddyletswydd arnom ni i ddiogelu'r bobl hyn, ond hefyd pobl eraill sy'n defnyddio'r hewlydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2016