Poeni am ddiffyg arbenigedd i drin afiechydon prin
- Cyhoeddwyd
Mae gan Hannah Evans o Gastell-nedd dri chyflwr prin sy'n golygu y gallai hi gael sioc anaffylactig unrhyw bryd.
Mae gan y ferch 28 oed mastocystitis, cyflwr ar ei chalon a chyflwr genetig sy'n achosi i rannau o'i chorff symud o'u lle gwreiddiol.
Mae ei theulu yn poeni y gallai diffyg arbenigedd yn agos i'w chartref beryglu ei bywyd.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod wedi'u hymrwymo i gwrdd â gofynion Ms Evans,
Ar hyn o bryd does yna ddim modd gwella mastocytosis - cyflwr lle mae'r celloedd sydd i fod amddiffyn y corff yn ymosod arno.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar system imiwnedd Ms Evans ac yn cynyddu'r posibilrwydd o gael sioc anaffylactig sy'n angheuol.
Dywedodd mam Hannah, Helen Harry: "Os yw'ch salwch yn perthyn i gategori arbennig mi gewch ofal ond dyw Hannah ddim yn perthyn i focs penodol gan bod ei chyflyrau yn brin ac yn gymhleth iawn."
Mae teulu Hannah wedi gwario dros £100,000 dros gyfnod o 10 mlynedd ar driniaeth breifat yn Llundain.
Yn ogystal fe wnaeth ymgyrch gyllido torfol ganiatáu i'r teulu fynd i weld arbenigwr yn yr Unol Daleithiau - yno cafwyd cynllun gofal manwl ond mae teulu Hannah yn dweud nad yw'r meddygon adref yn dilyn y cynllun.
"Dyw Hannah ddim wedi gweld ymgynghorwyr arbenigol yng Nghymru," medd Mrs Harry.
'Ofn y bydd hi'n marw'
Ychwanegodd: "Mae hi wedi gweld ymgynghorwyr yn ddiweddar - mae'r rhan fwyaf wedi bod o gymorth - ond maent i gyd yn dweud gan fod cyflyrau iechyd Hannah mor gymhleth ei bod yn anodd rhoi gofal diogel iddi.
"Mae'n sefyllfa ddychrynllyd. Mae Hannah angen 100 meddyginiaeth y dydd a thriniaeth fewnwythiennol 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos er mwyn ei chadw'n fyw."
Yn gynharach eleni aeth Ms Evans i ysbyty Singleton i Abertawe am archwiliad ond bu'n rhaid iddo aros yno am fis a chael ei thrin mewn uned gofal dibyniaeth uchel.
Mae ei theulu yn credu bod hyn wedi digwydd am nad oedd gan neb yn yr ysbyty y wybodaeth arbenigol i drin ei chyflyrau cymhleth.
Maent yn ofni os nag oes rhywbeth yn cael ei gwneud yn fuan y bydd hi'n marw.
Dywed Richard Evans, cyfarwyddwr gweithredol yn y Bwrdd Iechyd, ei fod yn ymwybodol o bryderon y teulu a'i fod yn ymddiheuro.
Dywedodd: "Pan mae gan gleifion anghenion gofal cymhleth mae'n gallu bod yn her cynnig y ddarpariaeth angenrheidiol yn lleol."
Dywedodd James Evans, gŵr Hannah: "Ry'n angen rhywun i ddelio â hyn - rhywun sy'n fodlon gwrando.
"Mae gan Hannah gyflwr na ofynnodd hi amdano - cyflwr sy'n gwaethygu ond dyw e ddim fel ein bod yn cyrraedd unlle.
"Rwy'n ofni y bydd hi'n marw a ddylen i ddim fod yn meddwl hynny yn 32 oed."
'Codi ymwybyddiaeth'
Mae rhwng 6,000 ac 8,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o afiechydon prin ac mae'n her i nifer ohonynt dderbyn gofal yn agos i'w cartrefi.
Yn 2017 dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent yn ymrwymo i sicrhau bod unigolion yn cael mynediad i'r gofal y maent ei angen.
Ond yn ôl cadeirydd y Grŵp sy'n Gweithredu ar Afiechydon Prin, Dr Graham Shortland, er bod gwelliannau wedi digwydd mae angen gwneud mwy i helpu cleifion a darparu llwybrau gofal gwell.
Dywedodd Dr Shortland: "Yn aml mae person sy'n diodde o afiechyd prin yn gwybod mwy na'r meddyg neu llawfeddyg.
"Rhaid bod yn agored felly wrth siarad â'r claf sy'n ymwybodol, o bosib, o rywbeth y mae'n amhosib i feddyg unigol ddarllen amdano.
"Pan mae byrddau iechyd yn wynebu pob math o bwysau sut mae gwella gwasanaethau i gleifion sy'n dioddef o afiechydon prin? Rhaid codi ymwybyddiaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019